Skip to main content

Cwpan Goffa Bernard Baldwin

Bydd Cwpan Goffa Bernard Baldwin yn cael ei chyflwyno yn Rasys Ffordd Nos Galan 2017 yn Aberpennar ar Nos Galan. 

Bu farw Bernard Baldwin MBE, sylfaenydd a noddwr y digwyddiad byd-enwog, yn heddychlon ar 3 Ionawr eleni, yn Ysbyty Cwm Cynon, yn 91 oed.  

Roedd trefnwyr y ras, Cyngor Rhondda Cynon Taf, a Phwyllgor Nos Galan am i Bernard Baldwin gael ei gofio a'i gysylltu â Rasys Ffordd Nos Galan am byth  ac felly maen nhw wedi penderfynu cyflwyno Cwpan Goffa Bernard Baldwin i'r athletwr gwrywaidd cyflymaf o'r Fwrdeistref Sirol yn y Ras Elitaidd. 

Roedd Bernard, a dderbyniodd ei MBE gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham ym 1971 am ei wasanaethau i athletau Prydeinig, hefyd wedi cael rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2014. 

Cafodd Alison Leighton-Williams, o Gaegarw, Aberpennar, ei chyhoeddi fel Noddwr newydd Rasys Ffordd Nos Galan yn gynharach eleni, yn dilyn marwolaeth ei thad. 

Y gobaith yw y bydd hi'n cyflwyno'r Cwpan Goffa Bernard Baldwin cyntaf ddydd Sul, Rhagfyr 31. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd y Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Heb Bernard Baldwin ni fydden ni erioed wedi cael Rasys Ffordd Nos Galan yn y lle cyntaf. Felly, mae'n addas y bydd ef yn rhan o'n digwyddiad am byth. 

"Yn union fel Cwpan Goffa Lilian Board, bydd Cwpan Goffa Bernard Baldwin yn cael ei gyflwyno bob Nos Galan, ac mae gwahoddiad wedi'i ymestyn i ferch Bernard, Alison, i gyflwyno'r Cwpan am y tro cyntaf eleni." 

Bydd rhagor o fesurau diogelwch yn cael eu gweithredu eleni ar gyfer Rasys Nos Galan yn Aberpennar. O ganlyniad i'r mesurau yma, bydd rhaid cau ambell i ffordd dros dro. 

Mae Rasys Nos Galan 2017 wedi'u noddi gan gwmni lleol Tom Prichard Ltd; Amgen, cwmni sy'n darparu gwasanaethau rheoli gwastraff i Rondda Cynon Taf; Trivallis, un o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mwyaf Cymru sy'n darparu cartrefi i filoedd o deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol; a Chymunedau yn Gyntaf.  

Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk 

Am ragor o fanylion am ddigwyddiadau'r Cyngor sydd i ddod, ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron

Nodwch; mae pob categori yn llawn. Ni fydd modd cofrestru am y ras ar y noson. Chewch chi ddim trosglwyddo lleoedd mewn rasys i eraill. Os byddwch chi'n defnyddio rhif ras unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r ras.

Mae Bernard Baldwin MBE wedi'i oroesi gan ei wraig Pat, ei ferch Alison a'i fab yng nghyfraith David.

Wedi ei bostio ar 20/12/2017