Skip to main content

Cabinet yn cytuno i gynnig eithriad Treth y Cyngor i bobl rhwng 18 a 25 oed sy'n gadael gofal

Mae'r Cabinet wedi cytuno i gyflwyno eithriad Treth y Cyngor i breswylwyr sy'n gadael cynllun gofal Rhondda Cynon Taf. Rhondda Cynon Taf fydd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu'r polisi yma ar gyfer pobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed.

Yn ystod cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr, trafododd y Cabinet adroddiad a oedd yn argymell cynnig gostyngiad Treth y Cyngor yn ôl disgresiwn i bobl sy'n gadael gofal (18-25 oed). Byddai'r newidiadau yma'n dod i rym ar 1 Ebrill, 2018.

Mae'r cynnig hefyd wedi denu cefnogaeth Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, sy'n cyfeirio at yr angen am ystyried effaith Treth y Cyngor ar y rheiny sy'n gadael gofal yn ei hadroddiad 'Breuddwydion Cudd'.

Mae adroddiadau ac ymgyrchoedd diweddar – gan gynnwys adroddiadau Cymdeithas y Plant – wedi cydnabod sawl anfantais sy'n wynebu pobl sy'n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys bod yn agored i niwed oherwydd y pwysau sy'n gysylltiedig â thalu Treth y Cyngor. Mae cyfnod pontio pobl ifainc o fyd gofal i fyd yr oedolyn, lle mae angen rheoli arian am y tro cyntaf, yn heriol iawn.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol: "Yn ei rôl fel rhiant corfforaethol, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig cymorth i bobl ifainc sy'n rhan o'i gynllun gofal. Mae penderfyniad y Cabinet i gyflwyno eithriad rhag talu Treth y Cyngor yn sicrhau bod pobl ifainc sy'n gadael gofal yn parhau i dderbyn cymorth.

"Bydd yr eithriad yma yn gymorth mawr i bobl ifainc sy'n gadael gofal ac sydd heb gymorth y teulu, wrth iddyn nhw reoli arian am y tro cyntaf.

"Mae disgwyl y bydd yr eithriad yma'n costio'r Cyngor o gwmpas £10,000 bob blwyddyn. Bydd y gost yma'n cael ei chynnwys yng nghyllideb 2018/19 y Cyngor. Fydd y cynllun ddim yn effeithio ar y rheiny sy'n talu Treth y Cyngor.

"Cyngor Rhondda Cynon Taf fydd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gynnig yr eithriad yma i bobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, yn hytrach na 21 oed. Bydd hyn yn ehangu'n rôl ni fel rhiant corfforaethol sy'n cynnwys rhoi cymorth i'r bobl ifainc yma wrth iddyn nhw fyw'n annibynnol am y tro cyntaf."

Ychwanegoddy Cynghorydd Christina Leyshon, Dirprwy Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant a Phobl Ifainc: "Mae'r Cyngor yn darparu cymorth i blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal yn barod. Mae'r cymorth yma'n cynnwys rhaglenni Camu i'r Cyfeiriad Cywir a GofaliWaith – sy'n cynnig cymorth unigryw ac sy'n annog pobl ifainc sy'n derbyn gofal i ymuno â'r system addysg a'r byd gwaith.

"Mae'r penderfyniad i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu Treth y Cyngor yn cefnogi'r cyfnod pontio. Mae'r dull wedi denu cefnogaeth Cymdeithas y Plant a'r Comisiynydd Plant."

Bydd Gostyngiad Treth y Cyngor i Bobl sy'n Gadael Gofal yn berthnasol i breswylwyr ifainc yr oedd y Cyngor yn rhiant corfforaethol iddyn nhw tan iddyn nhw adael gofal. Bydd y gostyngiad yn berthnasol i bobl sy'n gadael gofal sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n atebol i dalu Treth y Cyngor.

Bydd y gostyngiad yma'n cael ei gynnig o ddechrau blwyddyn ariannol 2018/19 ac yn cael ei gyllido gan y Cyngor a'i gynnwys yng nghyllideb 2018/19.

Wedi ei bostio ar 19/12/17