Skip to main content

Anrhydeddu cyn-filwyr lleol Rhondda Cynon Taf yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru 2025

Welsh Veterans Awards Pop and Paul

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o ddathlu cyflawniadau rhagorol cyn-filwyr a sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2025, a gafodd ei chynnal ar 2 Gorffennaf yng ngwesty 4 seren y Vale Resort ym Mro Morgannwg.

Mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn anrhydeddu cyflawniadau nodedig cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a sefydliadau sy'n eu cefnogi. Unwaith eto eleni roedd cynrychiolaeth dda i Rondda Cynon Taf, gyda nifer o enillwyr a chystadleuwyr yn y rowndiau terfynol o bob cwr o’r fwrdeistref sirol.

Llongyfarchiadau mawr i bob enillydd lleol, gan gynnwys:

  • Gordon 'Pops' White o Grŵp Cyn-filwyr Taf-elái – Enillydd Aur: Gwobr Cyflawniad Oes

Wedi'i noddi gan Hugh James, mae'r cyflawniad yma'n cydnabod unigolion am eu gyrfa filwrol gyfan a'u cyflawniadau mewn bywyd sifil. Yn gyn-filwr D-Day a'r Ail Ryfel Byd, yn ogystal â bod yn arwr lleol, cafodd Pops ei anrhydeddu am wasanaeth gydol oes a'i ymroddiad parhaus i gefnogi cyd-gyn-filwyr.

  • Valley Veterans – Enillydd Aur: Gwobr Grŵp Cyn-filwyr y Flwyddyn (5 mlynedd neu fwy)

Wedi'i noddi gan Gronfa Elusennol y Fyddin, mae'r wobr yma'n dathlu grŵp o gyn-filwyr sydd wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan godi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr, a hyrwyddo newid cymdeithasol.

  • Paul Bromwell MBE, Sylfaenydd Valley Veterans – Enillydd Aur:  Ysbrydoliaeth y Flwyddyn

Wedi'i noddi gan Porters Estate Agents, mae'r wobr yma'n cydnabod unigolyn deinamig sydd wedi ysbrydoli eraill trwy ei angerdd, ei arweinyddiaeth a'i ymroddiad i'r gymuned filwrol a chyn-filwyr.

  • Paul Bromwell MBE, Sylfaenydd Valley Veterans – Enillydd Aur: Pencampwr Cyffredinol Cyn-filwyr Cymru

Wedi'i noddi gan Vindico, mae'r dyfarniad mawreddog yma'n cydnabod pencampwr cyffredinol Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2025, sy'n gyflawniad gwirioneddol anhygoel. Cafodd Paul, ac yntau’n sylfaenydd a’r sbardun y tu ôl i Grŵp Valley Veterans, ei wobrwyo fwy na neb arall ar y noson, gan dderbyn tair gwobr, a hynny am ei arweinyddiaeth a'i ymroddiad.

Meddai Sean Molino BCA, Sylfaenydd Gwobrau Cyn-filwyr a Chyn-filwr y Gwarchodlu Cymreig: “Rydyn ni'n ddiolchgar tu hwnt i bawb sydd wedi ein cefnogi, ein gwirfoddolwyr a'r noddwyr a wnaeth ein helpu i greu'r noson wych yma.

“Ymhlith uchafbwyntiau’r noson cafodd Gordon ‘Pops’ White, Cyn-filwr D-Day yr Ail Ryfel Byd, gymeradwyaeth wrth dderbyn y Wobr Cyflawniad Oes, a Paul Bromwell MBE oedd enillydd Ysbrydoliaeth y Flwyddyn a Phencampwr Gwobrau Cyn-filwyr Cymru.

“Rydyn ni am ysbrydoli'r rheiny a fydd yn gadael gwasanaeth milwrol yn y dyfodol i wybod gall pethau gwych ddigwydd. Chi fydd y modelau rôl, ac mewn rhai achosion yn fentoriaid. Cofiwch: mae positifrwydd yn esgor ar bositifrwydd.”

Hoffai'r Cyngor hefyd longyfarch 3 unigolyn lleol a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol:

  • Nigel Locke, Ysgrifennydd Valley Veterans – Enillydd Arian: Codwr Arian Elusen Filwrol y Flwyddyn
  • John Hooper o Grŵp Cyn-filwyr Taf-elái – Enillydd Arian: Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • David King o Grŵp  Cyn-filwyr Taf-elái – Enillydd Efydd: Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Aeth y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog i'r seremoni, a oedd yn achlysur llawn emosiwn, balchder a dathlu. Ymhlith uchafbwyntiau’r noson cafodd ‘Pops’ gymeradwyaeth wrth dderbyn y Wobr Cyflawniad Oes, a Paul Bromwell MBE oedd enillydd Ysbrydoliaeth y Flwyddyn a phencampwr cyffredinol y seremoni.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi'r rheiny sy'n rhan o'n cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw, ac yn falch o hyrwyddo mentrau sy’n cefnogi eu hiechyd, eu lles, a’u llwyddiannau parhaus.”

“Rwy mor falch o gyhoeddi bod nifer o enillwyr o bob cwr o Rondda Cynon Taf yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni, gan gynnwys 4 gwobr aur, 2 unigolyn yn y rowndiau terfynol, a sawl enwebai arall.

“Llongyfarchiadau arbennig i Paul Bromwell MBE a’i elusen Valley Veterans, a sefydlodd dros 20 mlynedd yn ôl i gefnogi cyn-filwyr lleol sy’n byw gyda PTSD ac yn addasu i fywyd sifil. Mae derbyn 3 gwobr mewn noson yn gamp nodedig.

“Hoffwn i hefyd longyfarch Gordon White – rydyn ni i gyd yn ei adnabod fel 'Pops' – am ei Wobr Cyflawniad Oes haeddiannol. Yn 102 oed, mae 'Pops' yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Mae’r gwobrau yma'n dyst i gryfder, gwydnwch ac ysbryd cymunedol ein cyn-filwyr lleol ledled Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni'n hynod falch o weld eu hymroddiad yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Da iawn, bawb."

Wedi'u noddi gan eu prif noddwr Vindico a Thales Group, sy'n cefnogi'r holl wobrau cyn-filwyr ledled y DU, cafodd Gwobrau Cyn-filwyr Cymru eu sefydlu yn 2018 i hyrwyddo, gwobrwyo a dathlu cyfraniadau cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a'r rheiny sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd.

Roedd gwobrau ar gyfer categorïau eraill ar y noson, gan gynnwys:

  • Model Rôl y Flwyddyn
  • Y Gymuned
  • Iechyd a Lles
  • Arweinydd y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Busnes y Flwyddyn sy'n eiddo i Gyn-filwyr
  • Milwr Wrth Gefn y Flwyddyn
  • Grŵp Cyn-filwyr y Flwyddyn (1 i 5 mlynedd)

Rhagor o wybodaeth (Saesneg yn unig): Gwobrau Cyn-filwyr Cymru - Gwobrau'r Cyn-filwyr

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cyngor a chymorth diduedd a phwrpasol yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â'r swyddogion yma'n gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog RhCT

Wedi ei bostio ar 08/07/2025