Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda i drawsnewid hen safle Marks & Spencer, 97-102 Stryd y Taf, yng nghanol tref Pontypridd, a hynny ers dechrau'r gwaith adeiladu yn gynharach eleni.
Bydd y prosiect yn creu plaza newydd sbon ar lan yr afon, a fydd yn fan cyhoeddus croesawgar gydag ardaloedd gwyrdd a chiosgau bwyd a diod bach, a bydd yn amlygu golygfeydd o'r Afon Taf am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd. Bydd hefyd yn fan hyblyg i gynnal achlysuron lleol a sicrhau bod canol y dref yn fwy bywiog.
Mae'r prosiect yma'n rhan o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd, sy'n ymwneud â gwella'r dref ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr. Mae cyllid grant wedi'i sicrhau i symud y prosiect yn ei flaen, ynghyd â chymorth trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Yr hyn sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn (hyd at fis Gorffennaf 2025):
- Mae offer cynnal dros dro a gafodd eu defnyddio yn ystod y gwaith dymchwel wedi cael eu symud o'r safle.
- Mae waliau terfyn newydd wedi cael eu hadeiladu ar ochr orllewinol y safle.
- Mae'r wal llifogydd ar hyd yr Afon Taf wedi cael ei chryfhau gyda choncrit dur.
- Mae gwaith i lefel uwch y strwythur dur a'i lawr concrit wedi'i gwblhau.
- Mae hanner y gwaith i'r lefel ganol wedi'i gwblhau.
Yr hyn sydd ar y gweill:
- Gorffen lefel ganol y strwythur.
- Adeiladu grisiau newydd a ramp er mwyn gwneud yr ardal yn fwy hygyrch.
- Gosod systemau draenio newydd.
- Gorffen y cynllun terfynol, gan gynnwys plannu coed a threfnu ardaloedd gwyrdd.
Meddai Simon Gale, Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu:
“Mae'n wych gweld y cynnydd ers mis Chwefror. Mae gwaith i lefel uwch y plaza newydd yn mynd rhagddo, ac rydyn ni ar y trywydd iawn diolch i waith ein contractwr, Horan Construction Ltd.
“Mae'r prosiect yma'n rhan allweddol o'n cynllun ehangach i adfywio Pontypridd. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, rydyn ni eisoes wedi cyflawni gwelliannau mawr megis Llys Cadwyn, cynllun tai Cwrt yr Orsaf, Y Muni a gwelliannau i Barc Coffa Ynysangharad.
“Bydd y plaza newydd yn ategu hen safle'r Neuadd Bingo sy'n agos, gan greu man agored, braf gyda chiosgau bwyd, ardaloedd gwyrdd a golygfeydd hyfryd o'r parc. Bydd hefyd yn lle gwych i gynnal achlysuron.
“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n contractwr i sicrhau bod y gwaith yn symud yn ei flaen yn ddi-dor a bod cyn lleied o darfu â phosibl ar drigolion a busnesau.”
Yr hyn y bydd y plaza newydd yn ei gynnig:
- Cyswllt allweddol rhwng yr orsaf drenau, canol y dref a Pharc Coffa Ynysangharad.
- Golygfeydd hardd o'r afon a'r parc.
- Ardaloedd gwyrdd gyda choed, planhigion a systemau draenio ecogyfeillgar.
- Man hyblyg i gynnal achlysuron ac i'r gymuned ei ddefnyddio.
- Ciosgau bach yn gwerthu bwyd a diod.
- Bydd y rhan fwyaf o'r safle ar lefel uwch i leihau perygl llifogydd.
- Gwelliannau i'r lôn sy'n arwain i'r parc (sy'n parhau i fod ar agor ac sy'n cael ei monitro er diogelwch)
Diben Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw ailddatblygu a gwella canol trefi a dinasoedd. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo trefi defnydd cymysg fel llefydd i fyw ynddynt, i weithio ynddynt, i ymweld â nhw ac i aros ynddynt. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o'r DU. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Wedi ei bostio ar 04/07/2025