Skip to main content

Dathlu cyflawniadau'r Cyngor yn ystod achlysur Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru

Business Wales

Ar ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf, derbyniodd Carfan Dylunio Corfforaethol a Chyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddwy wobr yn ystod achlysur Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Parkgate, Caerdydd. Mae'r seremoni'n dathlu rhagoriaeth ar draws y sector, gan gydnabod ymgynghorwyr, contractwyr, cleientiaid, penseiri a phrosiectau rhagorol, ochr yn ochr â chyflawniadau mewn arloesedd a chynaliadwyedd.

Derbyniodd y Cyngor y gwobrau canlynol:

• Cleient y Flwyddyn, wedi’i noddi gan Atkins Realis, ar gyfer yr Ysgol ADY 3 i 19 newydd yng Nghwm Clydach.

• Gwobr Mannau Dysgu Ysbrydoledig y Flwyddyn, wedi’i noddi gan HLM Architects, ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref.

Cafodd Ysgol Afon Wen ganmoliaeth uchel hefyd yng nghategori Prosiect y Flwyddyn.

Mae'r gwobrau'n dathlu’r holl waith sydd wedi cyfrannu at wella ysgolion ac adeiladau ysgol newydd yn ddiweddar. Mae prosiectau’r Cyngor yn cael eu hariannu gan bartneriaeth rhwng y Cyngor a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), sef ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Nod Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yw trawsnewid profiad dysgu disgyblion, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth sydd â’r dechnoleg a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu’r Cwricwlwm i Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg a’r Gymraeg: “Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y gwobrau a’r ganmoliaeth yma, mae’r gwobrau’n cynrychioli’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd wedi cyfrannu at ein prosiectau gwella ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid wedi helpu i wneud hyn yn bosibl ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol sy’n cynnwys adeiladau a chyfleusterau ysgol newydd a modern sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i’n disgyblion ledled Rhondda Cynon Taf.”

Ym mis Mawrth 2025, rhannodd y Cyngor ddiweddariad ar y gyfran nesaf o brosiectau a fydd yn elwa o fuddsoddiad mawr ar gyfer cyfleusterau Addysg newydd yn rhan o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae nifer o’r prosiectau yma yn y camau cynnar sy’n canolbwyntio ar astudiaethau dichonoldeb a gwaith dylunio a byddan nhw’n yn cael eu nodi ar y dudalen we hon unwaith y byddan nhw wedi’u datblygu ymhellach.

Mae modd i chi ddarllen rhagor am Wobrau Adeiladau Addysg Cymru yma ac am Brosiectau Buddsoddi mewn Ysgolion eraill y Cyngor yma.

Wedi ei bostio ar 07/07/2025