Skip to main content

Y Cyngor yn croesawu uwchraddio un o wasanaethau bws y cymoedd i 'Aur'

Mae'r Cyngor wedi croesawu buddsoddiad o £4 miliwn gan y cwmni bws Stagecoach i ddarparu gwasanaeth Aur moethus ar yr ail brif lwybr yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r gwasanaeth 120/130 o Flaencwm/Blaenrhondda i Gaerffili - sydd hefyd yn gwasanaethu Treorci, Tonypandy, Y Porth, Pontypridd a Nantgarw - bellach yn elwa ar gerbydau newydd o safon uchel a lansiwyd mewn achlysur yng Nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ddydd Llun, Rhagfyr 11 .

Torrwyd rhuban yn yr achlysur i lansio'r gwasanaeth Aur gan Bennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, ochr yn ochr â Rheolwr-gyfarwyddwr Stagecoach, Nigel Winter.

Mae'r buddsoddiad gwerth £4m wedi darparu 24 o gerbydau newydd ar gyfer y llwybr. Mae gan bob un Wi-Fi am ddim, USB, cyhoeddiadau sain a gweledol dwyieithog ar gyfer pob arhosfan, seddi e-ledr gyda chefnau uchel, mwy o le i'r coesau, mynediad is ar gyfer cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a chymudwyr sydd ag anawsterau symudedd, a'r dechnoleg rheoli injan stopio/cychwyn Euro 6 diweddaraf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: "Mae annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf yn flaenoriaeth i'r Cyngor, ac yn gynharach eleni fe wnaethon ni gwblhau uwchraddio'r arosfannau bysiau ar lwybr y gwasanaeth 120/130.

"Mae cyflwyno'r bysiau newydd yma gan Stagecoach yn dangos ein partneriaeth ar waith a bydd yn cael ei groesawu gan ddefnyddwyr rheolaidd, gan gynnwys myfyrwyr - rydyn ni'n rhoi tocyn bws i lawer ohonyn nhw fel rhan o'n darpariaeth hael ar gyfer cludiant coleg.

"Mae'r Cyngor wedi cynnal nifer o brosiectau i wella profiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws lleol - gan gynnwys uwchraddio Gorsaf Fysiau Tonypandy ac arosfannau bws Stryd Catherine ym Mhontypridd, a chwblhawyd y ddau eleni. Mae cynnydd da hefyd yn cael ei wneud yn y gwelliannau parhaus i  arhosfannau bws ar hyd y Coridor Bws Strategol o Donypandy trwy Donyrefail i Tonysguboriau.

"Rydw i'n croesawu uwchraddio gwasanaeth 120/130, sy'n dilyn cyhoeddiad gan Stagecoach y mis diwethaf bod y daith 122 o Donypandy i Gaerdydd yn ehangu. Os bydd mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws lleol, bydd yn gwella llif traffig trwy leihau tagfeydd, wrth wella'r amgylchedd hefyd. "

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, : "Mae'r cerbydau hyn yn fuddsoddiad sylweddol gan Stagecoach, y diweddaraf o sawl yng Nghymoedd De Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n siŵr y bydd teithwyr yr un mor falch gyda'r bysiau newydd yma ag yr ydym ni. "

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: "Mae ein bysiau Aur wedi'u dylunio gydag anghenion ein cwsmeriaid mewn golwg. Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod ein cwsmeriaid ar deithiau, fel y gwasanaeth Blaen-cwm i Gaerffili, yn gwerthfawrogi'r defnydd o Wi-Fi a USB am ddim, er mwyn iddynt dreulio eu hamser yn gynhyrchiol wrth gymudo, ac yn croesawu bysiau mwy cyfforddus ac injan sydd yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd sy'n defnyddio'r dechnoleg stopio/cychwyn Euro 6 diweddaraf. "

Ychwanegodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans : "Mae croeso mawr i'r buddsoddiad hwn gan Stagecoach - mae ein dysgwyr angen cludiant da, dibynadwy i gyrraedd y coleg. Bydd gan ein dysgwyr fynediad at gyfleusterau gwell sy'n caniatáu iddynt astudio wrth iddynt deithio a byddant yn gallu monitro amseroedd bws fel y gallant deithio'n ddiogel a chyrraedd ar amser. "

Wedi ei bostio ar 18/12/2017