Byddwch barod am haf o hwyl yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wrth i docynnau gael eu rhyddhau ar gyfer gwyliau'r haf!
Boed law neu hindda, bydd Lido Ponty ar agor saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig dwy sesiwn nofio ben bore, ac yna chwe sesiwn hwyl i'r teulu/sesiwn nofio hamddenol bob dydd.
Bydd tocynnau ar gyfer pob sesiwn o 18 Gorffennaf hyd at ddiwedd gwyliau'r haf ar werth o 9am ddydd Llun, 30 Mehefin. Prynwch docyn yma: www.lidoponty.co.uk
Mae 42,274 o bobl o bob oed eisoes wedi mwynhau sesiynau nofio awyr agored yn Lido Ponty ers sesiwn nofio Dydd Calan ar 1 Ionawr.
Mae'r rhain yn cynnwys nofwyr dŵr oer, nofwyr ben bore a'r rheiny sy'n dod i sesiynau hwyl ar y penwythnos.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni hanner ffordd drwy'r flwyddyn ac yn mwynhau tymor anhygoel unwaith yn rhagor yn Lido Ponty.
"Boed law neu hindda, mae'n brofiad anhygoel i nofio neu sblasio yn y pyllau awyr agored. Mae'r tri phwll wedi'u cynhesu i 28 gradd yn ystod y prif dymor.
"P’un a ydych chi eisiau dechrau eich diwrnod yn y ffordd orau gyda sesiwn nofio ben bore, neu eisiau diddanu'r plant yn ystod gwyliau'r ysgol gyda sesiwn hwyl â chwrs rhwystrau teganau gwynt, cychod pedlo a pheli dŵr, mae rhywbeth at ddant pawb.
"Mae'r Lido wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad, yng nghanol Pontypridd. Dewch i dreulio diwrnod gwerth chweil yn Lido Ponty! Dewch i fwynhau sesiwn nofio, treulio amser yn y parc hardd a maes chwarae antur Lido Play cyn cael coffi o'r caffi ar y safle. Mae digon o le ar gyfer gemau pêl, gemau ffrisbi, cyrtiau chwaraeon, ac os bydd y tywydd yn braf - torheulo!
"Galwch heibio i ganol tref Pontypridd er mwyn crwydro o gwmpas yr ystod o siopau, ymweld â'r farchnad hanesyddol a chael tamaid i'w fwyta - mae digonedd ar y fwydlen."
Bydd tocynnau ar gyfer pob sesiwn o 18 Gorffennaf tan ddiwedd gwyliau'r haf ar werth o 9am ddydd Llun, 30 Mehefin ymlaen. Prynwch docyn yma.
Dewiswch sesiwn nofio ben bore ar gyfer y ddwy sesiwn gynnar bob dydd a'r sesiynau hwyl i deuluoedd/nofio hamddenol ar gyfer pob sesiwn arall. Mae modd i'r rheiny sy'n dymuno mwynhau'r teras a'r gwelyau haul tra bo'u cyfeillion yn nofio brynu tocyn gwyliwr.
Nodwch nad oes dim modd prynu tocynnau ar gyfer mwy na 6 pherson. Os byddwch chi'n ceisio prynu tocynnau ar gyfer mwy na 6 pherson, bydd y system yn nodi nad oes lleoedd ar gael. Dylech chi rannu grwpiau mwy yn grwpiau o 6 a phrynu tocynnau ar wahân.
Ar gyfer grwpiau mawr a phartïon, e-bostiwch.
Bwriwch olwg ar y gymhareb nofio o ran oedolion yn goruchwylio plant yn y pwll, yma
Wedi ei bostio ar 25/06/2025