Skip to main content

Trafod Twrci

Gyda dwy ran o dair o gartrefi yn y Deyrnas Unedig (DU) yn dewis twrci ar gyfer eu cinio Nadolig1, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnig cyngor ar sut y gallwch baratoi'ch twrci yn ddiogel gartref.

O brynu'ch twrci i storio bwyd dros ben, mae nifer o ganllawiau hylendid bwyd y gallwch eu dilyn er mwyn diogelu eich teulu a'ch ffrindiau'n dros yr ŵyl.

Gair i gall

1)    Wrth siopa bwyd ar gyfer y Nadolig, cofiwch fynd â digon o fagiau fel y gallwch gadw bwyd amrwd a bwyd parod i'w fwyta ar wahân er mwyn osgoi croeshalogi.

2)    Darllenwch y cyngor ar label eich twrci er mwyn sicrhau bod gennych chi ddigon o amser i'w ddadmer yn llawn, fe allai gymryd hyd at 4 diwrnod i ddadmer.

3)    Peidiwch â golchi twrci amrwd; mae'n tasgu germau ar eich dwylo, eich dillad, offer ac arwynebau.

4)    Darllenwch y cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu'r twrci er mwyn canfod pa mor hir y bydd yn cymryd i'w goginio. Dylech wirio: bod y cig yn stemio'n boeth drwyddo draw; nid ydych yn gweld unrhyw gig pinc wrth dorri i'r darn mwyaf trwchus ac mae'r suddion yn rhedeg yn glir.

5)    Gallwch ddefnyddio twrci sydd wedi'i goginio'n flaenorol a'i rewi er mwyn creu pryd newydd, megis cyri twrci. Gallwch rewi'r pryd newydd hwn, ond dylech sicrhau mai unwaith yn unig yr ydych chi'n ei ailgynhesu.

Meddai Kevin Hargin, Pennaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd yr ASB: “Bob blwyddyn, mae tua 1,000,000 o achosion o wenwyn bwyd yn y DU; y ffordd symlaf i ddiogelu'ch teulu y Nadolig hwn yw sicrhau'ch bod yn storio a choginio bwyd yn ddiogel.

"Rydym wedi creu'r canllaw 'Trafod Twrci', sy'n cynnig cyngor ar oeri, glanhau, coginio a chroeshalogi, yn ogystal ag esbonio'r wyddoniaeth tu ôl i'n cyngor."

Meddai Paul Mee: "I nifer ohonom ni, ni fyddai'n Nadolig heb dwrci. Fodd bynnag, mae pwysau mawr arnom weithiau os ydym yn coginio i lawer o bobl. Mae'n rhaid meddwl am y gwahanol amseroedd dadmer a choginio, yn ogystal â sicrhau bod yr holl fwyd wedi'i storio'n ddiogel. Gall twrci amrwd a thwrci heb ei goginio achosi gwenwyn bwyd, a allai fod yn ddifrifol iawn i blant, pobl sy'n sâl eisoes a phobl hŷn. 

"Dyma pam fod RCTCBC yn cefnogi'r ASB wrth eich helpu chi i fod yn hyderus wrth goginio'ch twrci y Nadolig hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch bwyd y Nadolig hwn, ewch i www.food.gov.uk/trafodtwrci, neu ddilynwch @FSACymru a #TrafodTwrci ar Twitter i gael cyngor dros gyfnod yr ŵyl. 

Wedi ei bostio ar 19/12/17