Skip to main content

Digwyddiad i ddathlu agor Llyfrgell newydd Rhydfelen

Mae llyfrgell newydd sbon Rhydfelen sy'n cynnig gwasanaeth llyfrgell gwell a mannau cymunedol newydd wedi'i hagor yn swyddogol gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn ystod digwyddiad arbennig.

Trefnodd Trivallis y digwyddiad ar 12 Rhagfyr i agor adeilad Llys y Llyfrgell, sydd wedi dod yn gartref i gynllun Tai Gwarchod y gymdeithas dai yn ogystal â Llyfrgell newydd Rhydfelen.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad oedd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, yn ogystal â Rebecca Evans AC. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad gan gôr Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen.

Am ragor o luniau o Lyfrgell newydd Rhydfelen, cliciwch yma

Mae gan y llyfrgell newydd nifer o nodweddion, gan gynnwys:

  • Ystafell TG fawr gydag offer newydd, gan gynnwys sgrîn ryngweithiol C-gyffwrdd.
  • Ystafell gymunedol gyda sgrîn ryngweithiol C-gyffwrdd ar gyfer dysgu / hyfforddi oedolion a chyfarfodydd cymunedol.
  • Ardal i blant, wedi'i haddurno â dodrefn cyfoes lliwgar.
  • Ystafell ymgynghori sy'n addas ar gyfer sesiynau cyngor cyfrinachol neu gyfarfodydd grŵp bach.

Mae mwyafrif y silffoedd yn y brif lyfrgell yn symudol, ac mae modd eu symud i greu lle mawr ar gyfer gweithgareddau pan fo angen. Gall y llyfrgell felly hwyluso ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys y rheiny ar gyfer plant a phobl ifanc - megis digwyddiadau yn ystod gwyliau'r haf, sesiynau adrodd straeon a chrefft.

Bydd y cyfleusterau addysgu yn cefnogi dosbarthiadau dysgu ar gyfer oedolion, tra bydd cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus a Wi-Fi yn galluogi sesiynau chwilio am swydd a Dydd Gwener Digidol. Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor hefyd wedi buddsoddi mewn deunyddiau darllen newydd cyn agoriad swyddogol y llyfrgell.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cyngor wedi cydweithio'n agos â Trivallis, Grŵp Cefnogi Llyfrgell Rhydfelen ac Aelodau Etholedig lleol i sicrhau bod gan y llyfrgell yr holl gyfleusterau sydd eu hangen ar y gymuned leol - gan gynnwys mannau newydd i gyfarfod, offer TG newydd ac ardal i blant a gwell darpariaeth llyfrgell.

"Y gobaith yw y bydd Llys y Llyfrgell yn dod yn ganolbwynt yng nghymuned Rhydfelen, gyda'r Gwasanaeth Llyfrgell newydd a gwell wrth ei galon.

"Roedd digwyddiad agoriadol gwych ddydd Mawrth i gael y llyfrgell i'r cychwyn gorau posibl, ac yn ddiweddarach yn y diwrnod cynhaliodd y lleoliad ei ddau ddigwyddiad cyntaf - ymgynghoriad cyllideb 2018/19 a sesiynau crefft i blant.

"Mae croeso i bawb yn y llyfrgell newydd, a byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i ymweld - p'un ai i ddarllen y llyfrau neu'r papurau newydd, neu fanteisio ar gyfrifiaduron y llyfrgell neu Wi-Fi am ddim gan ddefnyddio eu dyfeisiau personol. Mae'r ystafelloedd cyfarfod hefyd ar gael i'w harchebu, ac mae staff y llyfrgell yn hapus i helpu gydag ymholiadau gan aelodau'r gymuned."

Medddai Prif Weithredwr Trivallis, Ian Thomas, ynglŷn â'r buddsoddiad ehangach i Library Court: "Rydyn ni wedi rhoi'r preswylwyr a'r gymuned wrth galon y datblygiad yma ac rydw i'n falch iawn o hynny. Dydw i ddim yn meddwl bod modd agor cyfleusterau pwysig fel hyn heb gyfraniad y gymuned. 

“Bydd yr hyn rydyn ni wedi'i greu o fudd i Rydyfelen a'r ardal o'i chwmpas am flynyddoedd i ddod. Dyma gyfleuster mae modd i'r gymuned gyfan fod yn falch ohono."

Wedi ei bostio ar 15/12/17