Skip to main content

Ehangu Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, Dinas

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ehangu'i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Ninas, y Porth – gyda gwaith i gychwyn yn ystod y gwanwyn, 2018.

Cafodd y Cyngor ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y prosiect ar yr 2il o Dachwedd.  Mae'r broses o benodi cwmni i ymgymryd â'r gwaith ar droed er mwyn bwrw ymlaen ag ehangu'r Ganolfan Ailgylchu.

Bydd y gwaith yn gwneud y Ganolfan ddwywaith ei maint ar hyn o bryd.  Mae hi'n un o saith canolfan yn y Fwrdeistref Sirol sy'n darparu gwasanaethau gwastraff i drigolion. Bydd y safle yn parhau i fod ar ddwy lefel – y trefniant sy'n cael ei ffafrio ymhlith defnyddwyr.

Bydd y gwaith hefyd yn fodd i wella cynllun a threfn y safle, mewn ymdrech i leddfu'r tagfeydd ar hyd Ffordd Cymmer. Bydd y biniau ailgylchu presennol yn cael eu symud o'r llwyfan uwch i'r llawr gwaelod yn rhan o'r safle newydd, fel bydd modd i'r Ganolfan dderbyn rhagor o gerbydau ar y safle.

Bydd gyrwyr yn parhau i ddefnyddio'r fynedfa bresennol oddi ar Ffordd Cymmer, a bydd yr ail fynedfa bresennol ar gyfer cerbydau cludo hefyd yn aros. Does dim bwriad i newid oriau agor presennol y Ganolfan.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Yn ystod mis Tachwedd, cafodd y Cyngor ganiatâd cynllunio i ehangu Canolfan Ailgylchu Dinas.

“Mae'r safle yn denu llawer o drigolion sy'n manteisio ar nifer o wasanaethau gwastraff sydd ar gael ar y safle, a bydd y gwaith ehangu yn cynyddu maint y Ganolfan er mwyn bodloni'r galw. Bydd y gwaith hefyd yn gweld llif y traffig ar hyd Ffordd Cymmer, gan roi rhagor o le i gerbydau ar y safle.

“Mae'r gwaith ehangu yn digwydd ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn gwrando ar neges ailgylchu'r Cyngor. Dangosodd ffigurau a gafodd eu cyhoeddi eleni, inni ailgylchu 64% o'r gwastraff cyfan yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2016 - y mwyaf dros gyfnod o 12 mis yn y Fwrdeistref Sirol. Roedd hyn wedi rhagori ar gyfradd gyfartalog Cymru (63%) a tharged presennol Llywodraeth Cymru (58%).

"Mae'r gwaith o ehangu Canolfan Dinas yn dilyn buddsoddiad mewn cyfleusterau ailgylchu yn Nhreherbert a Llantrisant yn ddiweddar wrth i'r Cyngor wneud popeth y gall i gynorthwyo trigolion i ailgylchu."

Wedi ei bostio ar 21/12/2017