Skip to main content

Cynlluniau arloesol ar gyfer Parc Eco newydd ym Mryn Pica

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Parc Eco newydd gwerth miliynau o bunnoedd yng Nghyfleuster Rheoli Gwastraff Bryn Pica. Dyma fyddai'r cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r cyfleuster, sydd wedi'i leoli yn Llwydcoed, yn darparu gwasanaethau ailgylchu i breswylwyr a busnesau'r Fwrdeistref Sirol. Mae gan y Cyngor cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu Parc Eco hunan gynaliadwy yno. Bydd y Parc Eco yn helpu troi rhagor o wastraff yn adnoddau trwy gasglu ac ailddefnyddio deunyddiau gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu ar y safle, megis gwres ac ynni trydanol.

Bydd Rhan Un yn cynnwys datblygu pum uned ddiwydiannol ar gyfer busnesau preifat arloesol. Bydd yr unedau yma'n cael eu cynhesu a'u hoeri gan ddefnyddio swm mawr o'r gwastraff dros ben. Cwmni Biogen fydd yn rhedeg y cyfarpar Treulio anerobig ar y safle.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn trafod â sawl tenant posibl a fydd yn gallu gweithredu'n llawn amser o'r Parc Eco. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn canolbwyntio ar ailgylchu ac ailddefnyddio, gan gynnwys:

  • Casglu paent sydd wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu paent newydd, o safon uchel le mae 90% o'r cynhwysion wedi'u hailgylchu.
  • Dod o hyd i ffordd o ailgylchu tecstilau matresi. Mae hyn yn anodd oherwydd y perygl o halogiad.
  • Gwasanaeth ailgylchu ac adfer cewynnau er mwyn cynhyrchu byrddau ffibr a phaneli acwstig ac atal unrhyw wastraff rhag mynd i'r safle tirlenwi.
  • Troi gwastraff cynhyrchwyr yn ddeunyddiau y mae modd eu defnyddio yn niwydiant plastig - gyda'r posibilrwydd o greu biniau olwynion.

Gall Rhan Dau ddefnyddio tri hectar ychwanegol o dir ym Mryn Pica. Ar hyn o bryd mae'r tir yma wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol.

Bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â'r cynlluniau yma o ddydd Llun, 18 Rhagfyr. Bydd gwefan llawn gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi. Bydd y wefan yn cynnwys manylion pellach ynglŷn â'r Parc Eco newydd, yn ogystal â fideo sy'n cynnwys argraff arlunydd o'r datblygiad.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r cynlluniau uchelgeisiol yma ar gyfer datblygu Parc Eco ym Mryn Pica yn cael eu cyhoeddi yn ystod cyfnod lle mae canran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn uwch nag erioed. Yn gynharach yn y flwyddyn, dangosodd ffigyrau Llywodraeth Cymru bod y Fwrdeistref Sirol wedi ailgylchu 64% o'i wastraff cyffredinnol yn 2016. Dyma record ar gyfer y Fwrdeistref Sirol dros gyfnod o 12 mis, ac yn ffigwr sy'n well na chyfartaledd Cymru (63%) a tharged Llywodraeth Cymru (58%).

"Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ailgylchu ac ailgylchu'n fwy aml yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor yma. Nid yn unig y Parc Eco cyntaf o'i fath yng Nghymru fyddai'r Parc Eco cyffrous a hunan gynaliadwy yma sydd wedi cael ei gynnig ar gyfer Bryn Pica, ond y cyntaf o'i fath yn y DU."

Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: "Bydd y Parc Eco hefyd yn creu cyfleoedd masnachol a swyddi yn ardal Porth Cwm Cynon, 'Gwefru'r Rhanbarth'. Dyma un o ardaloedd cyfleoedd strategol allweddol y Cyngor.

"Dyma leoliad pwysig sy'n adeiladu ar fuddsoddiad y sector preifat gwerth £1biliwn mewn cynlluniau ynni lleol. Drwy weithio â phartneriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus mae yna botensial i greu nifer sylweddol o swyddi.

"Yn ogystal â hynny, mae'r cynlluniau yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) sy'n rhoi pwyslais ar yr angen i wella lles Cymru mewn cyd-destun economaidd, amgylcheddol a diwylliannol."

Wedi ei bostio ar 18/12/17