Skip to main content

Ailwampio Ystafelloedd Lechyd

Mae Ystafell Ffitrwydd newydd wedi agor yng Nghanolfan Hamdden Y Ddraenen Wen yn dilyn tân a ddinistriodd y cyfleuster yn gynharach yn y flwyddyn. 

Yn dilyn y tân ym mis Mawrth, buddsoddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn adnewyddu'r Ystafell Ffitrwydd a gosod cyfleusterau newydd sbon ynddi. Ers iddo agor, mae'r cyfleuster yn fwy poblogaidd nag erioed! 

Mae'r Ystafell Ffitrwydd newydd ar agor saith niwrnod yr wythnos ac mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys ystafell stêm, sawna, ardal ymlacio a chyfleusterau cawod a newid. Mae'r ystafelloedd newid i ferched wedi cael eu hadnewyddu, gan gynnwys gosod cawodydd a chabanau newid. 

Mae gan yr Ystafell Ffitrwydd ardal gyda theledu ble mae modd i gwsmeriaid ymlacio. 

Mae ychwanegiadau eraill yn cynnwys cyfleuster cawod hygyrch sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Hefyd, mae yna Stiwdio Ffitrwydd ar gyfer sesiynau hyfforddi ffitrwydd ychwanegol a gweithgareddau grŵp. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydw i'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud buddsoddiad sylweddol sy'n ein galluogi ni i ailagor yr Ystafell Ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen yn dilyn tân yn gynharach yn y flwyddyn. 

"Mae'r cyfleuster yn boblogaidd iawn yn barod gyda'r cyhoedd a gydag aelodau Hamdden am Oes. 

"Cafodd mwy na £2miliwn ei fuddsoddi yn ddiweddar er mwyn gwella'n canolfan hamdden. Mae'r ystafell ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau hamdden modern y mae modd i'n preswylwyr eu mwynhau." 

Mae modd i aelodau Hamdden am Oes fwynhau mynediad diderfyn i'r Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Y Ddraenen Wen AM DDIM. Cofrestrwch ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes ar-lein heddiw. 

Byddwch yn Fwy Heini dros y Gaeaf 

Mae modd i Aelodau Hamdden am Oes gael mynediad i'r Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen AM DDIM. Pris mynediad i'r rheiny sydd ddim yn aelodau yw £4.10 (£2.45 ar gyfer gostyngiadau) fesul sesiwn. Hoffech chi ragor o fanylion?  Ffoniwch 01443 842873 neu anfon e-bost i CHDdraenen-wen@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Wedi ei bostio ar 07/12/17