Skip to main content

Cynlluniau i fuddsoddi'n sylweddol we mwyn llywio dyfodol Rhondda Cynon Taf

Mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mwy na £300 miliwn o gyllid ychwanegol yn y gwaith o barhau i drawsnewid y Fwrdeistref Sirol.

Yn rhan o'i ddatganiad i Aelodau'r Cyngor yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan, ei fod e'n bwriadu rhoi'r cynlluniau ar waith ar ddechrau 2018. Hon fydd y "rhaglen fuddsoddi cyfalaf fwyaf yn hanes Rhondda Cynon Taf, yn bendant ers cenhedlaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan: "Yn fuan, byddwn ni'n ystyried cynlluniau a fydd yn amlinellu'r cylch buddsoddi ychwanegol, sydd werth mwy na £300 miliwn, ar gyfer dyfodol Rhondda Cynon Taf. Mae hyn ar wahân i Raglen Gyfalaf arferol y Cyngor.

"Os caiff y cynlluniau uchelgeisiol yma eu cymeradwyo, hon fydd y rhaglen fuddsoddi cyfalaf fwyaf ers cenhedlaeth. Bydd hi'n sicrhau ein bod ni'n trawsnewid y ddarpariaeth mewn amrywiaeth o feysydd ac mewn nifer o wasanaethau allweddol. Bydd y cyllid yma yn ychwanegol i'r buddsoddiad sydd eisoes wedi'i gymeradwyo er mwyn gwella'r Fwrdeistref drwy'r rhaglen #BuddsoddiadRhCT gwerth £200 miliwn.

"Drwy gymeradwyo'r cynlluniau yma, bydd modd sicrhau ein bod ni'n trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu er mwyn diwallu anghenion poblogaeth sy'n parhau i fynd yn hŷn ac sydd ag anghenion, gofynion a disgwyliadau gwahanol. Byddwn ni'n gwneud hyn drwy wella ein cyfleusterau Gofal Ychwanegol.

"Yn ogystal â hynny, byddwn ni'n defnyddio'r cyllid i drawsnewid ysgolion yn gyflymach o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae ysgolion Rhondda Cynon Taf eisoes wedi derbyn buddsoddiad o £200 miliwn o dan y rhaglen yma - sef y buddsoddiad mwyaf ym maes addysg ledled Cymru.

“Bydd y cyllid yma hefyd yn sicrhau ein bod ni'n diogelu seilwaith hanfodol ledled y Sir ar gyfer y dyfodol, a bydd e'n sicrhau bod ein rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth yn ategu'r potensial economaidd sydd gan Rondda Cynon Taf i'w gynnig drwy ein cyfraniad i Gytundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd, sydd werth £1.2 biliwn.

“Rydyn ni eisoes wedi dangos beth y mae modd i ni ei gyflawni drwy fuddsoddi'n strategol fel hyn, a hynny drwy ein rhaglen #BuddsoddiadRhCT gwerth £200 miliwn. Gwarion ni fwy o arian nag erioed o'r blaen ar wella ein priffyrdd, cyfleusterau chwarae a hamdden ac ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r rhaglen yma.

“Nod y cynnig newydd yw ychwanegu at y momentwm yma. Rydyn ni eisoes wedi gosod y safon ac wedi dangos beth y mae modd i ni ei gyflawni drwy'r weithio yn y modd uchelgeisiol yma ar brosiectau megis ailddatblygu safle Dyffryn Taf.   Ar un adeg, roedd llawer o bobl o'r farn na fyddai'r prosiect yma'n cael ei gyflawni. Serch hynny, bydd y gwaith ar y datblygiad sylweddol yma, a fydd yn trawsnewid dyfodol Pontypridd, yn dechrau. Mae'r prosiect arweiniol yma yn dangos bod rhaid buddsoddi'n strategol er mwyn sicrhau adfywiad a ffyniant. Rydyn ni am greu cyfleoedd tebyg ledled Rhondda Cynon Taf.

"Dangosodd y Gyllideb a gafodd ei chyhoeddi yr wythnos ddiwethaf y bydd cyni cyllidol a thoriadau yn parhau am o leiaf pedair blynedd arall. Mae'n amlwg, felly, mai'r unig ffordd i wella Rhondda Cynon Taf ar gyfer y dyfodol yw buddsoddi arian yn ddoeth, a hynny er mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau i drigolion a gwasanaethau wrth i ni wynebu cyfnod economaidd ansicr a heriol. O ganlyniad i'n dull rhagweithiol o ymdrin â thoriadau i'n cyllideb, rydyn ni wedi creu cyfleoedd i gyflawni'r buddsoddiadau untro yma, a fydd yn atgyfnerthu'r gwasanaethau a'u trawsnewid ar gyfer y dyfodol.

"Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i fod yn uchelgeisiol ar ran ein sir. Os caiff y cynllun yma ei gymeradwyo pan gaiff adroddiadau eu cyflwyno i sicrhau'r cyllid yma, byddwn ni'n atgyfnerthu ein hymrwymiad drwy wireddu'r rhaglen fuddsoddi cyfalaf fwyaf yn hanes Rhondda Cynon Taf, yn bendant ers cenhedlaeth."

Bydd Cabinet y Cyngor yn dechrau ystyried sut y mae modd sicrhau'r math yma o fuddsoddiad ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Mae'r Cyngor wrthi'n ymgynghori â thrigolion ynglŷn â meysydd blaenoriaeth o ran buddsoddi yn rhan o Ymgynghoriad Cyllideb 2018/19.  Cael eich dweud yma: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Consultations/BudgetConsultation201819.aspx

Wedi ei bostio ar 05/12/17