Skip to main content

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol

Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y cynlluniau arfaethedig i gyflwyno Gorchymyn newydd a fydd yn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y Fwrdeistref Sirol.

Dydd Mawrth, 19 Rhagfyr, trafododd Aelodau o'r Cabinet gynlluniau arfaethedig i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a fydd yn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'n bosib bydd y gorchymyn yma'n cynnwys cyflwyno dau barth gwaharddedig penodol yng Nghanol Trefi Aberdâr a Phontypridd.

Byddai'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn golygu bod y Fwrdeistref Sirol yn barth yfed a reolir. Mae hyn yn golygu bod gan swyddogion awdurdodedig y Cyngor a'r heddlu y grym i ofyn i bobl beidio ag yfed a rhoi'u diod feddwol i'r swyddogion a'r heddlu os ydyn nhw'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol neu os ydyn nhw'n debygol o ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.

Bydd y parthau penodol yn Aberdâr ac ym Mhontypridd yn gwahardd pobl mewn mannau cyhoeddus rhag defnyddio sylweddau meddwol, gan gynnwys alcohol. Byddai parth Pontypridd yn cynnwys rhan isaf y Graig

Cytunodd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad dros gyfnod o wyth wythnos er mwyn trafod cynlluniau arfaethedig y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Ar ôl y cyfnod ymgynghori yma, bydd Aelodau o'r Cabinet yn trafod adroddiad arall a fydd yn cynnwys yr ymateb i'r ymgynghorid.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Llesiant:  "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig i breswylwyr. Dydyn ni ddim yn ofni cyflwyno mesurau newydd gan ddefnyddio Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

"Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n mynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus yn ddiweddar ar ôl i nifer fawr o drigolion fynegi pryderon yn ystod ymgynghoriad. Erbyn hyn, mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar fesurau newydd er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Unwaith eto mae hyn ar ôl i'r cyhoedd fynegi bod hyn yn broblem fawr.

"Un o flaenoriaethau Partneriaeth Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf yw Canol Trefi Mwy Diogel. Mae'r Cyngor yn cynnal arolwg canfyddiad am droseddau bob blwyddyn yng Nghanol Trefi Aberdâr a Phontypridd yn rhan o'r gwaith yma.

"Yn ystod arolwg 2016/17, roedd 27% o'r farn mai alcohol oedd wrth wraidd y mwyafrif o achosion o drosedd ac anrhefn yn y trefi. Roedd sawl sylw wedi cael ei wneud yn cefnogi'r farn yma. Nodwyd bod angen i Aberdâr a Phontypridd fod yn destun rheolaeth fwy llym na gweddill y Fwrdeistref Sirol. Dyma pam mae'r cynigion ar gyfer parth gwaharddedig penodol wedi cael eu hawgrymu."

Fydd mesurau rheoli alcohol y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ddim yn golygu ei fod yn drosedd yfed mewn man cyhoeddus (ac eithrio Aberdâr a Phontypridd). Fodd bynnag, rhaid i breswylwyr gydymffurfio â chais gan swyddog yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y Cyngor i beidio yfed ac/neu roi'u diod feddwl i'r swyddog. Bydd gan swyddogion yr heddlu a swyddogion awdurdodedig y Cyngor rym i roi hysbysiad cosb  benodedig hyd at £100.

Fyddai mesurau rheoli'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn Aberdâr a Phontypridd ddim yn berthnasol i eiddo trwyddedig o ran gwerthu alcohol. Mae hyn yn cynnwys mannau megis gardd dafarn neu fannau eistedd a ganiateir. Bydd modd hefyd addasu'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer achlysuron yn Aberdâr a Phontypridd lle bydd pobl yn yfed yn gyhoeddus - mae hyn yn cynnwys Marchnadoedd y Nadolig ac achlysur Cegaid o Fwyd Cymru.

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am fanylion yr ymgynghoriad yn y man.

Wedi ei bostio ar 19/12/2017