Skip to main content

Adroddiad cynnydd - Gwaith ar System Gylchu Heol Sardis

Mae atgyweiriadau sylweddol i bontydd Heol Sardis a Stryd y Felin ym Mhontypridd yn mynd rhagddyn nhw, ac mae'r gwaith gwerth £1 miliwn yn debygol o gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.

Ni fydd yr un lôn ar System Gylchu Sardis ar gau dros gyfnod prysur y Nadolig. Bydd y lôn yn cau eto'n gynnar ym mis Ionawr.

Dechreuodd y cynllun mawr ym mis Mai yn dilyn archwiliad manwl y llynedd, pan nodon ni fod angen atgyfnerthu strwythur rhan cantilifrog y bont. Cytunodd y Cyngor i fuddsoddi £944,000 ar gyfer yr atgyweiriadau angenrheidiol - gan ychwanegu at y dyraniad o £140,000 a gafodd ei gymeradwyo'n barod ar gyfer y cynllun.

Mae'r gwaith yn cynnwys atgyweirio concrid i'r cantilifrau a thrawstiau cyfnerthedig, ac adeiladu ateg Ffrâm C barhaol yn sianel yr afon er mwyn cryfhau rhan cantilifrog dec y bont - sy'n cynnwys gwaith dros dro helaeth yn yr afon.

Cafodd y gwaith ar byst y seiliau ei gwblhau erbyn diwedd Awst, ac yna cafodd Ffrâm C goncrit a atgyfnerthwyd yn barhaol ei hadeiladu a chafodd trawstiau'r bont eu cynnal, gan newid berynnau ac atgyweirio'r trawstiau cantilifrog cyfnerthedig a chymalau'r bont.

Er mwyn hwyluso'r gwaith mae Hen Heol Sardis (llwybr cerddwyr a beicwyr) ar System Gylchu Sardis wedi cau dros dro, ac mae un lôn o'r System Gylchu hefyd wedi cau. Bydd yr un lôn yn ail agor Dydd Gwener, Rhagfyr 15, i gyd-fynd â chynnydd disgwyliedig mewn traffig dros gyfnod yr ŵyl. Gall contractwr y Cyngor barhau i weithio yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd yr un lôn yn cael ei chau eto erbyn dydd Mercher, Ionawr 3, er mwyn i gontractwyr gwblhau'r cynllun cyffredinol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: "Mae'r gwaith i bontydd Heol Sardis a Stryd y Felin yn debygol o gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol arall, o fwy na £1m, i baratoi ein seilwaith priffyrdd ar gyfer y dyfodol.

"Roedd natur gymhleth y gwaith yn yr afon yn golygu yr oedd angen gwneud y prosiect dros sawl mis. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'i gontractwr wrth i'r prosiect symud tuag at ei gamau olaf.

 "Wrth ragweld cyfnod Nadolig a Blwyddyn Newydd brysur, gwnaethom benderfyniad i ailagor y lôn sydd wedi ei chau ar System Gylchu Sardis i wella llif y traffig yn yr ardal. Bydd y rheolaeth traffig yn dychwelyd erbyn Ionawr 3 i alluogi contractwyr i gwblhau'r gwaith.

 "Hoffwn ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad parhaus trwy gydol y prosiect pwysig hwn."

Wedi ei bostio ar 15/12/2017