Skip to main content

O Deuwch Ailgylchwyr! Dyma bob dim mae angen i chi'i wybod!

Dim ond pythefnos sydd i fynd tan ddiwrnod y Nadolig! Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i drefniadau ailgylchu ar gyfer y Fwrdeistref Sirol dros y Nadolig. O Deuwch Ailgylchwyr Rhondda Cynon Taf!

O Deuwch Ailgylchwyr!

Er mwyn sicrhau eich bod chi'n ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl dros yr wythnosau nesaf, mae yna wybodaeth bwysig a chyngor defnyddiol ar gael i chi. Mae sawl gwasanaeth ar gael, gan gynnwys gwasanaeth casglu coed Nadolig i'w hailgylchu a rhestr o eitemau pwysig y mae modd eu hailgylchu - dyma bob dim mae angen i chi'i wybod!

Pa eitemau y mae modd eu hailgylchu?

Mae'r Nadolig yn gyfle gwych i ailgylchu oherwydd bod cynifer o eitemau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu defnyddio adeg yma'r flwyddyn. Mae sawl eitem boblogaidd y mae modd eu hailgylchu'r adeg yma o'r flwyddyn, gan gynnwys bwyd dros ben a phapur lapio, cardiau a batris ar gyfer tegannau.

Beth am ailgylchu poteli plastig a gwydr, caniau, batris, potiau, tybiau, bocsys cardfwrdd, coed, gwastraff bwyd, hambyrddau, papur lapio a llawer yn rhagor? Llenwch eich bagiau ailgylchu clir neu fagiau gwastraff bwyd er mwyn i'r Cyngor eu casglu.

Nodwch, mae'r Cyngor yn gofyn bod preswylwyr yn gosod pob math o bapur lapio mewn bag ailgylchu ar wahan, gan gynnwys papur lapio ffoil a gliter.

Cofiwch olchi cynhwysyddion bwyd a diod cyn eu rhoi nhw mewn bag ailgylchu. Mae hyn yn sicrhau bod modd ailgychu'r eitemau sydd yn eich bag ailgylchu a bod eich gwastraff ddim yn cael ei wastraffu!

Gwasanaeth Casglu Coed Nadolig

Bydd modd i chi drefnu bod eich coeden Nadolig go iawn yn cael ei chasglu gan y Cyngor o 12 Rhagfyr ymlaen. Byddwn ni'n casglu'ch coeden rhwng 2 Ionawr a 12 Ionawr. Ar ôl y cyfnod yma, bydd eich coeden yn cael ei chasglu yn rhan o'r gwasanaeth gwastraff gwyrdd arferol.

Mae modd trefnu casgliad ar wefan y Cyngor neu dros y ffôn. Bydd y cyfnodau o amser sydd ar gael yn cael eu monitro gan y Cyngor bob dydd. Bydd y casgliadau yma'n digwydd ar yr un diwrnod â'ch casgliad ailgylchu arferol. Nodwch, rhaid i chi adael eich coed wrth y man casglu ailgylchu newydd.

Nodwch, does dim modd i ni gasglu coed artiffisial yn rhan o Wasanaeth Casglu Coed Nadolig y Cyngor. Rhaid i chi fynd â choed artiffisial i un o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor, neu eu cynnwys nhw yn rhan o gasgliad eitemau mawr.

Newidiadau i Ddiwrnodau Casglu dros y Nadolig

Bydd diwrnodau casglu wythnosol (gwastraff sych, gwastraff bwyd a gwastraff cewynnau) yn newid dros wythnos y Nadolig ac wythnos y Flwyddyn Newydd. Bydd eich gwastraff yn cael ei gasglu dau ddiwrnod yn hwyrach na'r diwrnod casglu arferol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Rhagfyr. Bydd eich gwastraff yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach na'r diwrnod casglu arferol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 1 Ionawr. Edrychwch ar y tabl isod sy'n esbonio'r newidiadau i ddiwrnodau casglu:

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu Dros Dro

Dydd Llun, 25 Rhagfyr

Dydd Mercher, 27 Rhagfyr

Dydd Mawrth, 26 Rhagfyr

Dydd Iau, 28 Rhagfyr

Dydd Mercher, 27 Rhagfyr

Dydd Gwener, 29 Rhagfyr

Dydd Iau, 28 Rhagfyr

Dydd Sadwrn, 30 Rhagfyr

Dydd Gwener, 29 Rhagfyr

Dydd Sul, 31 Rhagfyr

Dydd Llun, 1 Ionawr

Dydd Mawrth, 2 Ionawr

Dydd Mawrth, 2 Ionawr

Dydd Mercher, 3 Ionawr

Dydd Mercher, 3 Ionawr

Dydd Iau, 4 Ionawr

Dydd Iau, 4 Ionawr

Dydd Gwener, 5 Ionawr

Dydd Gwener, 5 Ionawr

Dydd Sadwrn, 6 Ionawr

Dydd Llun, 8 Ionawr

Trefniadau arferol ar   gyfer casgliadau yn ailddechrau

Fydd yna ddim newidiadau i drefniadau casglu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 18 Rhagfyr. Bydd trefniadau arferol ar gyfer casgliadau yn ailddechrau ar 8 Ionawr.

Cofiwch roi eich gwastraff a gwastraff ailgylchu allan cyn 7am ar ddiwrnod casglu eich ardal chi. Gall rhoi eich gwastraff allan cyn diwrnod casglu eich ardal chi arwain at flocio'r pafin ar gyfer cerddwyr. Os nad yw'ch gwastraff/eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu fel y cynlluniwyd, gadewch yr eitemau ar y pafin, mae'n bosib bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn cwrdd â'r galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Bydd casgliadau gwastraff mawr a gwastraff gwyrdd (ac eithrio gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig) yn cael eu gohirio yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Rhagfyr ac 1 Ionawr.  Mae hyn er mwyn i'r Cyngor ganolbwyntio ar y galw mawr ar gyfer casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu'r adeg yma o'r flwyddyn. Bydd y casgliadau yn ailddechrau ar 8 Ionawr.

Gofynnwn i chi ystyried ein cerbydau casglu gwastraff wrth barcio ar y strydoedd. Sicrhewch eich bod chi'n gadael digon o le ar gyfer ein cerbydau, yn enwedig yn y strydoedd cul.

Oriau Agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Ar y cyfan, bydd ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor fel arfer (8am-5.30pm, saith diwrnod yr wythnos) dros y Nadolig. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio ar y diwrnodau canlynnol:

  • Noswyl Nadolig - ar agor am 8am ac yn cau am 3.30pm.
  • Diwrnod y Nadolig - ar gau drwy'r dydd.
  • Gŵyl San Steffan - ar gau drwy'r dydd.
  • Nos Galan - ar agor am 8am ac yn cau am 3.30pm.
  • Dydd Calan - ar gau drwy'r dydd.

Peidiwch ag anghofio didoli eich gwastraff ailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metal ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Dydy Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae adeg y Nadolig yn gyfnod arbennig i ailgylchu oherwydd bod modd ailgylchu cynifer o'r eitemau sy'n cael eu defnyddio yn ystod yr ŵyl yma. Mae hyn yn cynnwys cardiau'r Nadolig, coed Nadolig a hyd yn oed gwastraff eich cinio Nadolig. Ac mae'r broses ailgylchu yn hawdd iawn! Yr unig beth sydd angen i chi'i wneud yw rhoi'r gwastraff yn y biniau ailgylchu perthnasol, yn hytrach na bag bin du.

"Mae staff y Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod gwasanaeth casglu cyflym ac effeithlon yn cael ei ddarparu dros ŵyl y Nadolig, er bod yna galw mawr yn ystod y cyfnod yma. Bydd casgliadau dau ddiwrnod yn hwyrach yn ystod wythnos y Nadolig, ac un diwrnod yn hwyrach yn ystod wythnos y Flwyddyn Newydd.

"Mae ailgylchu yn bwysig iawn drwy'r flwyddyn ac nid yn unig dros y Nadolig. Mae'r Cyngor wedi gofyn bod preswylwyr yn ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr dros yr 18 mis diwethaf. Roedd ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos ein bod ni wedi ailgylchu 64% o'n gwastraff cyffredinnol yn ystod blwyddyn galendr 2016.

"Roedd hyn yn record ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, ac yn well na chyfartaledd Cymru (63%) a tharged Llywodraeth Cymru (58%). Mae gyda ni gyfle arbennig i wneud rhagor o gynnydd dros y Nadolig eleni wrth i ni weithio gyda'n gilydd er mwyn bwrw targed Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2024/25. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n ailgylchu dros ŵyl y Nadolig a gosod sylfaen arbennig ar gyfer 2018!"

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu dros yr ŵyl yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig

Wedi ei bostio ar 22/12/2017