Skip to main content

Barbara Dickson yn fyw

Mae'r gantores ac actores Barbara Dickson sydd wedi ennill nifer o wobrau yn dod â'i thaith i Rondda Cynon Taf fis Medi. 

Bydd Barbara Dickson, un o gantorion mwyaf llwyddiannus yr Alban, a phianydd enwog Nick Holland yn perfformio sioe acwstig arbennig gan ganu ei chaneuon amrywiol mewn modd cartrefol yn Theatr y Parc a'r Dâr Cyngor Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r ddau yn gadael i'r geiriau a'r melodïau gipio'r gynulleidfa wrth iddyn nhw berfformio ystod o ganeuon wedi'u hysbrydoli gan ei gwreiddiau gwerin, cantorion cyfoes a rhai o'i chaneuon enwog. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'r Cyngor wrth ei fodd ei fod e'n croesawu'r berfformwraig o safon uchel Barbara Dickson i un o'i theatrau - mae'n dystiolaeth bod ein lleoliadau'n denu'r goreuon yn y byd adloniant. 

“Mae Barbara Dickson wedi bod yn enw cyfarwydd ers dros 40 blynedd. Mae hi wedi recordio caneuon di-ri sydd wedi ennill lle yn hanes y sioeau cerdd, ac mae ei llais mor gryf ag erioed. 

“Rwy'n siŵr bydd hi'n derbyn croeso cynnes iawn wrth berfformio ar lwyfan Theatr y Parc a'r Dâr.” 

Mae Barbara, a dderbynodd OBE gan y Frenhines yn 2002 am ei gwasanaethau i gerddoriaeth a drama, hefyd wedi derbyn dwy wobr Olivier am yr Actores Orau. Cafodd ei sengl gyntaf Answer Me ei rhyddhau yn 1976, gan ei gwneud hi'n enw cyfarwydd. 

Rhyddhawyd cân Another Suitcase in Another Hall y flwyddyn ganlynol pan estynodd Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber wahoddiad i Barbara ganu ar recordiad y cast gwreiddiol o'u sioe gerdd newydd Evita. 

Roedd rhai o'i chaneuon eraill megis Caravans a January, February hefyd yn boblogaidd. Sicrhaodd The Barbara Dickson Album ei disg aur gyntaf, ac aeth hi ymlaen i ennill 17 albymau Platinwm ac Aur dros y blynyddoedd nesaf.

Yn 1985, cyrhaeddodd cân o'r sioe gerdd Chess I Know Him So Well, a ganwyd gan Barbara ac Elaine Paige, frig siartiau cerddoriaeth y DU. Roedd y gân yn boblogaidd iawn gan gyrraedd rhestr y 10 cân orau ledled y byd, a gwerthwyd dros 900,000 o gopïau ar draws y byd. 

Serennodd hi mewn dramâu teledu megis Taggart, Band of Gold a The Missing Postman, yn ogystal â nifer o sioeau cerdd. Cafodd ei hunangofiant A Shirt Box Full of Songs ei gyhoeddi yn 2009. 

Bydd Barbara Dickson yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci ddydd Sadwrn 30 Medi (7.30pm). Pris y tocynnau yw £22 sydd ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar http://rct-theatres.co.uk/cy/

Wedi ei bostio ar 12/09/2017