Skip to main content

Aldi yn Noddi Rasys Nos Galan

Cadarnhawyd cwmni cadwyn archfarchnad Aldi fel noddwr dŵr swyddogol Rasys Nos Galan 2017 yn Aberpennar ar Nos Galan. 

Mae Adran Noddi cwmni Aldi a siop Aldi Caerdydd yn falch i noddi Rasys Nos Galan eleni. 

Mae'r trefnwyr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phwyllgor Nos Galan, wrth eu bodd fod un o gadwyni archfarchnad sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig yn ei gysylltu'i hun â'r achlysur byd-enwog. 

Bydd mwy na 1,000 o bobl yn cymryd rhan yn Râs Hwyl Pum Cilometr i Oedolion, gyda 325 o athletwyr ychwanegol yn cystadlu yn y Râs Elît, a llawer yn rhagor yn y rasys i blant. 

Bydd pob person sy'n croesi'r llinell orffen yn derbyn crys-T a medal coffa Rasys Nos Galan, ynghyd â chwdyn anrhegion sy'n cynnwys potelaid o ddŵr i wlychu pig, wedi'i chyflenwi gan gwmni Aldi - yn anhepgor i bob un sy’n cystadlu ar ôl y râs. 

"Ar ran pawb sy'n gysylltiedig â Rasys Nos Galan," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, "fe hoffem ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i gwmni Aldi am gael bod yn rhan o ffenomen mor fyd-eang. 

"Does yr un achlysur yn y wlad sy’n hollol debyg i Rasys Nos Galan. Mae'n gwneud ein Rasys Nos Galan ni yn wahanol iawn. Testun balchder i ni yw denu cystadleuwyr a gwylwyr o bedwar ban byd. 

"Rwy'n siŵr y bydd pawb sy'n croesi'r llinell derfyn ar y noson yn gwerthfawrogi derbyn potelaid o ddŵr drwy garedigrwydd cwmni Aldi yn fawr iawn.” 

Bydd Rasys Nos Galan 2017 yn cael eu cynnal ddydd Sul 31ain Rhagfyr. Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar/Twitter a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk

Am ragor o fanylion ffoniwch Garfan Achlysuron y Cyngor ar 01443 424123 neu e-bostio achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Nodwch fod pob categori yn y Rasys yn llawn bellach.  Fydd dim modd cofrestru am y Rasys ar y noson. Dyw lleoedd yn y Rasys ddim yn drosglwyddadwy. Os byddwch chi'n defnyddio rhif Rasys unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r Rasys.

Wedi ei bostio ar 28/11/2017