Skip to main content

Byddwch yn Fwy Egnïol y Gaeaf Hwn

Rydym ni wedi troi'r clociau yn ôl, ac mae hi'n dechrau nosi yn gynt. Ond peidiwch ag ildio i felan y gaeaf. Beth am wneud adduned? Bant â chi i'ch canolfan hamdden agosaf i fod yn fwy egnïol y gaeaf yma. 

Mae'r Cyngor yn cynnig aelodaeth Hamdden am Oes. Bydd hyn yn cynnwys mynediad i'r campfeydd a phyllau nofio diweddaraf o'r radd flaenaf, yn ogystal â mynediad i ddewis o dros 250 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos - y cyfan am ddim ond £17.50 fesul pob mis (yn ddarostyngedig i amodau). 

Ni fu arwyddo i gofrestru gyda Hamdden am Oes erioed mor rhwydd - un clic, a bant â'r cart! 

"Mae mwy a mwy o bobl yn heidio i'n canolfannau hamdden bob mis," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "Maen nhw i gyd yn cymryd camau tuag at ffordd fwy iachus ac egnïol o fyw. 

Yn dilyn y buddsoddi sylweddol yn ein cyfleusterau hamdden mewn blynyddoedd diweddar, mae ein trigolion yn darparu adborth positif i ni. Dyna pam rydym ni’n annog mwy o bobl nag erioed i ymaelodi â nhw a bod yn fwy egnïol y gaeaf hwn. 

"Mae ein campfeydd yn cynnig yr offer diweddaraf, gyda chysylltedd digidol llawn. Mae yno ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd yn addas i anghenion, oedrannau, a galluoedd pob un o'n holl gwsmeriaid. 

"Mae'r rhain yn atynfa anferth i aelodau Hamdden am Oes. Beth am ymaelodi heddiw, a gwneud yn fawr o'r cynnig gwych yma? 

"Caiff aelodau fwynhau faint fyd a fynnont o ddosbarthiadau mewn unrhyw un neu rai o'n canolfannau hamdden. Bydd yr aelodau o'r staff ar gael wrth law bob amser er mwyn darparu cyngor proffesiynol, sesiynau cychwynnol sefydlu, a rhaglenni hyfforddiant." 

Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn cynnig Sesiwn Blasu Campfa a Nofio AM DDIM i bawb nad yw'n aelod mewn unrhyw un neu rai o'i ganolfannau hamdden hyd at 31ain Rhagfyr, 2017. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd roi cynnig ar y cyfleusterau cyn ceisio am aelodaeth.  Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynnig yma? Croeso i chi ymweld ag http://www.rctcbc.gov.uk/cy/hamdden/hafan.aspx 

Mae aelodaeth Hamdden am Oes ar gael i bawb, ac yn costio cyn lleied â 57c y dydd (ar sail tâl consesiynol blynyddol). Does dim ffi ymaelodi. 

Bellach, mae dros 10,000 o aelodau o Hamdden am Oes. Mae hyn i gyd yn gwneud y cynnig yn un gwych. Nid un awdurdod lleol arall yn y rhanbarth yn cynnig mynediad mor gynhwysfawr at hamdden am un taliad misol. 

Yn dal heb ymaelodi â Hamdden am Oes? Hoffech chi fanteisio ar bob un o'r holl gynigion gwych sydd ar gael? Hoffech chi ddechrau arbed arian? Croeso i chi arwyddo i gofrestru ar-lein heddiw. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/aelodaethhamdden   

#MWYEGNÏOL

 

Wedi ei bostio ar 10/11/2017