Skip to main content

Perchnogion cŵn anghyfrifol yn derbyn y cosbau cyntaf o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dyroddi dros 20 o gosbau cyntaf i berchnogion cŵn anghyfrifol sydd wedi peidio â dilyn y rheolau llymach newydd yn erbyn baeddu gan gŵn.

Bu ymgyrch Ewch â’r ***u ‘Da Chi!  Yn hyrwyddo'r rheolau newydd, a ddaeth i rym er mwyn cadw Rhondda Cynon Taf yn lân ar 1af Hydref 2017. Baeddu gan gŵn yw un o'r prif faterion mae trigolion yn sôn amdanynt i'r Cyngor - ac mewn arolygon a sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd yn gynharach eleni, cytunodd pawb y dylid gweithredu.

Mae'r rheolau, a orfodir gan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn lanhau baw eu cŵn ar unwaith a'i waredu mewn ffordd briodol.
  • RHAID i berchnogion cŵn gario modd codi baw cŵn (bagiau, er enghraifft) bob amser.
  • RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddiad gan swyddog awdurdodedig (i roi ci ar dennyn, er enghraifft)
  • Mae cŵn wedi'u GWAHARDD o bob un ysgol, ardaloedd chwarae plant, a chaeau chwaraeon â marciau y mae'r Cyngor yn eu cynnal.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn bob amser mewn mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal.

Mae MWY o swyddogion gorfodi allan hwnt ac yma erbyn hyn, ac mae dros 20 o berchnogion cŵn anghyfrifol wynebu cynnydd o £100 yn y gosb am beidio â dilyn y rheolau.

Cafodd Gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1af Hydref. Mae'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gadw cŵn ar dennyn bob amser. Mae'r rheol hon mewn grym yn y Parc ers cyflwyno is-ddeddf yno ym 1866, ond byddai'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rhondda Cynon Taf gyfan wedi'i disodli.

O ystyried yr amgylchiadau unigryw yma, a barn preswylwyr mewn ymgynghoriad pellach, penderfynodd y Cyngor gadw rheolau cyfredol y Parc.

Ers 1af Hydref, bu cynnydd ym mhatrolau’r Swyddogion Gorfodi mewn strydoedd, parciau, a'r cefn gwlad ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Yn ystod yr 20 o ddiwrnodau cyntaf, câi'r Swyddogion eu cyfarwyddo i godi ymwybyddiaeth wrth batrolio. Diben hyn oedd gwneud preswylwyr yn hollol ymwybodol cyn dyroddi unrhyw gosbau.

Ers Dydd Gwener, 20fed Hydref, mae Swyddogion wedi rhoi dros 20 o Hysbysiadau Cosb Benodedig o £100 am nifer o dramgwyddau troseddol o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd.

Cafodd y cosbau eu rhoi yn sgil materion megis cŵn yn baeddu, am gŵn ar gaeau chwaraeon â marc neu nod ac am gŵn heb fod ar dennyn ym Mharc Aberdâr.

"O ganlyniad i gyrch y Cyngor yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol," meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddydd, Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal Stryd Cyngor Rhondda Cynon Taf "mae Swyddogion Gorfodi wedi dyroddi'r cosbau cyntaf i'r rheiny sy'n parhau i dorri'r rheolau newydd a gyflwynwyd drwy Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ym mis Hydref. Ein nod ni yw cadw ein strydoedd, parciau, a chefn gwlad yn rhydd o faw cŵn.

"Nid ydym ni'n hoffi dyroddi cosbau. Byddai'n well gennym weld preswylwyr yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol drwy lanhau ar ôl eu cŵn, ac yn osgoi'r mannau lle mae cŵn wedi'u gwahardd er budd preswylwyr eraill a'r amgylchedd.

“Mae'r Cyngor wedi cyfleu'n glir y rheolau cyfreithiol newydd a ddaeth i rym yn sgîl y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae cannoedd o arwyddion newydd ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf yn esbonio ystyr y rheolau hyn mewn perthynas â phob lleoliad penodol. Dyna pam nad oes esgus i'r rheiny sy'n cael eu dal yn gweithredu mewn ffordd anghyfrifol gan y Swyddogion Gorfodi.

“Bu'r Cyngor yn ymgynghori'n helaeth yn gynharach y flwyddyn hon cyn dod â'r rheolau newydd yma i rym, ac yn galw ar alwad unfryd unllais y preswylwyr am weithredu. Dyma'r cnwd cyntaf o gosbau i berchnogion cŵn anghyfrifol. Mae hyn yn dangos fod y Cyngor o ddifrif am ei gyrch yn erbyn  y mater yma sydd mor bwysig i breswylwyr.”

Hoffech chi gael gwybodaeth am y rheolau newydd ynghylch baeddu gan gŵn? (Bydd hyn yn cynnwys mapiau manwl o'r ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf lle mae cŵn wedi'u gwahardd.) Croeso i chi ymweld ag http://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Campaigns/Sortitout/SortITOut.aspx

Wedi ei bostio ar 10/11/2017