Bydd modd i breswylwyr Rhondda Cynon Taf ddweud eu dweud ar gyllideb 2018/19 mewn ymgynghoriad helaeth yn cychwyn ar 6ed Tachwedd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys nifer o elfennau fu'n llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ymhlith y rhain fe fydd efelychydd ar-lein lle gall preswylwyr osod eu 'cyllideb' eu hunain. Byddwn ni'n ailgydio mewn achlysuron ymgysylltu canol tref hefyd. Bydd y rhain yn gyfle i breswylwyr ddweud eu dweud yn bersonol am gyllideb 2018/19, blaenoriaethau buddsoddi, a dull Cyngor o fynd ati i gynnal a gwella gwasanaethau.
Bydd y Cyngor yn defnyddio'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysu'r preswylwyr yn rheolaidd am achlysuron sydd ar y gweill yn rhan o’r ymgynghoriad, a sut y gallan nhw gymryd rhan.
Craidd yr ymgynghoriad fydd barn y preswylwyr ar sut y dylai'r Cyngor fynd i'r afael â'r heriau ariannol a ddaw. Roedd Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref, yn nodi lleihad o -0.2% mewn cyllid ariannu i Rondda Cynon Taf i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Cynhelir yr ymgynghoriad o ddydd Llun, 6ed Tachwedd, tan ddydd Llun, 18fed Rhagfyr, sef chwe wythnos.
"Roedd setliad dros dro Llywodraeth Cymru i Rondda Cynon Taf yn rhesymol," meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf "ac ystyried yr amgylchiadau ariannol heriol a wynebwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau er mwyn darparu setliad sy'n fodd i ganiatáu i'r Cyngor liniaru effaith llymder gwladol ar wasanaethau'r Cyngor.
"O ganlyniad i lai o arian, serch hynny, bydd raid i'r Cyngor ystyried eto sut mae llenwi bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2018/19. Unwaith eto, bydd angen canolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd yn rhan o ddull rhagweithiol o fynd ati ar sut i leihau gwariant y Cyngor.
"Drwy'r dull rhagweithiol yma rydym ni wedi parhau i'w weithredu wrth reoli ein materion ariannol, a setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, rydym ni eisoes wedi llwyddo i leihau'r bwlch cychwynnol yn y gyllideb ar gyfer 2018/29 o dros £18miliwn i £3.8miliwn.
"Mae'r ymatebion a dda i law o ganlyniad i'r ymgynghoriad yn darparu adborth gwerthfawr, a gaiff ei ystyried gan y Cabinet wrth osod y gyllideb. Hoffwn annog preswylwyr i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori er mwyn sicrhau fod eu lleisiau yn cael eu clywed ar y materion sydd o bwys iddynt.
"Cafodd ein hymgynghoriad cyllideb gryn lwyddiant yn y blynyddoedd aeth heibio. Dyna pam byddwn ni'n parhau â'r efelychydd cyllideb rhyngweithiol ac â'r sioeau teithiol canol tref y flwyddyn yma wrth i ni annog preswylwyr i ddweud eu dweud.
Hoffech chi osod 'cyllideb' drwy'r efelychydd rhyngweithiol ar-lein? Croeso i chi ddefnyddio'r cysylltiad canlynol o 6ed Tachwedd ymlaen - https://cyngorrhct.budgetsimulator.com/.
Mae'r Cyngor wedi cadarnhau'r dyddiadau canlynol ar gyfer yr achlysuron ymgysylltu:
Achlysuron Ymgysylltu â'r Cyhoedd – Cyllideb
|
Dyddiad
|
Amser
|
Canolfan Oriau Dydd Aberpennar
|
Dydd Iau, Tachwedd 30
|
2pm–4pm
|
Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci
|
Dydd Mawrth, Rhagfyr 5
|
6.30pm-8.30pm
|
Canol Trefi
|
|
|
Parc Manwerthu Tonysguboriau
|
Dydd Gwener, Tachwedd 17
|
10am-2pm
|
Aberpennar
|
Dydd Gwener, Rhagfyr 1
|
10am-2pm
|
Tonypandy
|
Dydd Gwener, Rhagfyr 8
|
10am-2pm
|
Sesiynau Galw Heibio – Canolfannau Hamdden
|
|
|
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
|
Dydd Mawrth, Tachwedd 14
|
5pm-7pm
|
Canolfan Hamdden Llantrisant
|
Dydd Iau, Tachwedd 16
|
5pm-7pm
|
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach
|
Dydd Llun, Tachwedd 20
|
5pm-7pm
|
Canolfan Hamdden Tonyrefail
|
Dydd Mercher, Tachwedd 22
|
5pm-7pm
|
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
|
Dydd Mawrth, Tachwedd 28
|
5pm-7pm
|
Canolfan Hamdden Sobell
|
Dydd Iau, Tachwedd 30
|
5pm-7pm
|
Sesiynau Galw Heibio – Llyfrgelloedd
|
|
|
Llyfrgell Pontypridd
|
Dydd Iau, Tachwedd 16
|
10am-12pm
|
Llyfrgell Hirwaun
|
Dydd Mawrth, Tachwedd 21
|
10am-12pm
|
Llyfrgell Abercynon
|
Dydd Iau, Tachwedd 23
|
2pm-4pm
|
Llyfrgell Glynrhedynog
|
Dydd Gwener, Tachwedd 24
|
10am-12pm
|
Llyfrgell Pont-y-clun
|
Dydd Mercher, Tachwedd 29
|
2pm-4pm
|
Llyfrgell Pentre'r Eglwys*
|
Dydd Llun, Rhagfyr 18
|
2pm-4pm
|
Llyfrgell Treorci*
|
Dydd Gwener, Rhagfyr 15
|
10am-12pm
|
Llyfrgell y Porth
|
Dydd Mawrth, Rhagfyr 12
|
10am-12pm
|
Llyfrgell Rhydfelen
|
Dydd Mawrth, Rhagfyr 12
|
2pm-4pm
|
Llyfrgell Aberdâr
|
Dydd Mercher, Rhagfyr 13
|
2pm-4pm
|
*Cafodd yr achlysuron yma eu canslo ar 11 Rhagfyr oherwydd y tywydd garw. Erbyn hyn, rydyn ni wedi'u had-drefnu.
Wedi ei bostio ar 07/11/2017