Skip to main content

Lledaenu Ewyllys Da'r Nadolig

Mae rhai pobl yn llawer gwaeth eu byd na ni. Rydym ni yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, a'i staff, yn falch i wneud popeth yn ein gallu i fod yn gefn i'r bobl yma.

"Amser i ewyllys da a haelioni yw'r Nadolig," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan. Arweinydd y Cyngor "A dyna ddwy o ddoniau ein pobl ni drwy gydol y flwyddyn.

"Mae dynion, menywod, a phlant i'w cael yn Rhondda Cynon Taf, sy'n llawer iawn gwaeth eu byd na rhai ohonom ni. Rydym ni wrth ein bodd yn cael cynorthwyo a hyrwyddo gwaith yr elusennau a'r achosion da sy'n ceisio anelu at roi ychydig o hud y Nadolig i bawb yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Mae llawer o wahanol ffyrdd i'w cael os yw rhywun am gymryd rhan a dangos cynhesrwydd a thosturi diarhebol pobl y Cymoedd. Beth am roi tegan i blentyn sydd heb anrheg i'w hagor ar fore Dydd Nadolig? Neu beth am roi bwyd, nwyddau ymolchi, ac anrhegion i’r rheiny sy'n ddigartref neu'n wynebu Nadolig ar y strydoedd?"

Unwaith eto, mae Apêl Siôn Corn wrthi yn darparu anrhegion i blant a allai'n rhwydd fod heb un. Mae trigolion, busnesau, a chyrff y fro eisoes wedi addunedu cannoedd o anrhegion.

Hoffech chi ddangos eich cefnogaeth i Apêl Siôn Corn? Ydych chi am sicrhau fod pob plentyn yn Rhondda Cynon Taf yn cael anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig? Mae'r wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.

Mae elusen Adref Cyf. yn cynnal apêl flynyddol, a gefnogir gan y Cyngor, am fwyd ac anrhegion i bobl ddigartref yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Yn ogystal â darparu cymorth a hyrwyddo'r apêl, bydd staff ym mhob rhan o'r Cyngor yn dod ag eitemau i mewn i'w casglu a'u trosglwyddo i elusen Adref. Bydd y rheiny yn eu dosbarthu wedyn i bobl sy'n ddigartref neu sy'n wynebu colli'u cartrefi.

Dyma ychydig o'r llu o eitemau a ddaeth i law: taclau ymolchi, bwydydd sydd ddim yn pydru, nwyddau tun, creision, a chraceri.

Hoffech chi gyfrannu unrhyw eitemau? Croeso i chi ddod â nhw i'ch swyddfa cyngor agosaf. Byddwn ni'n eu casglu wedyn a'u dosbarthu elusen Adref Cyf.

Mae Adref Cyf. yn mynd ers 25 mlynedd bellach. Bydd yr elusen yn cynorthwyo'r rheiny sy'n byw ar y strydoedd, a'r rheiny hefyd sydd mewn anhawster ac yn wynebu colli'u cartrefi. Maent yn rhedeg pedair hostel, ac mae ganddynt ddwy siop elusen sy'n gweithio i gasglu arian, ac i wella sgiliau a datblygu cyflogadwyedd.

Hoffech chi gael gwybod rhagor am yr Apêl, a dangos eich cefnogaeth? Dyma'r lle.

Cymdeithas Tai Llamau yw prif elusen arweiniol Cymru i fenywod a phlant hyglwyf sy'n ddigartref neu sy'n wynebu digartrefedd. Bydd eu staff ymroddedig yn ymestyn allan i gynorthwyo'r rheiny sydd â'r angen mwyaf.

Ar hyn o bryd, mae'r elusen wrthi yn cynnal ymgyrch ariannu torfol er mwyn codi'r arian sydd angen er mwyn agor llinell gymorth i bobl ifanc ddigartref. Dyma fydd y gyntaf o'i math yng Nghymru. Bydd hi'n cynnig cyngor, cymorth, a llais cyfeillgar i bobl ifanc, drwy'r nos a thros y penwythnos.

Unwaith eto, mae Cymdeithas Tai Llamau hefyd yn cynnal apêl anrhegion Nadolig. Maent yn gwahodd pobl i gyfrannu anrhegion sy'n addas i fenywod o bob oed, plant hyd at 18, a dynion 18 i 24 oed.

Mae sawl math o gyfraniad  yn bosibl, os hoffech chi gymryd rhan: cosmetigau, er enghraifft, setiau taclau ymolchi, llyfrau lliwo, creonau, sanau, eillwyr, posau, neu gardiau anrheg.

Hoffech chi gynorthwyo apêl Cymdeithas Tai Llamau? Dyma'r lle.

 

Hoffech chi gymryd rhan? Mynnwch air gyda'r elusennau'u hunain.

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 06/12/17