Skip to main content

Ceisiadau am Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref i ddechrau 9fed Hydref

 Bydd grant cynnal a chadw ar gyfer cynorthwyo busnesau a landlordiaid yn Aberpennar a Thonypandy ar agor o 9fed Hydref. Diben y grant yw gwella blaenau eiddo canol tref. 

Yn ystod mis Medi, fe gytunodd Aelodau o'r Cabinet i arbrofi'r Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref dros gyfnod o flwyddyn, yn cael ei ariannu gan fuddsoddiad o £50,000 gan y Cyngor, yn Aberpennar a Thonypandy. 

Dechreuodd Swyddogion y Cyngor ymweld â busnesau yn Ardaloedd Manwerthu Aberpennar a Thonypandy. Diben hyn oedd eu gwneud yn ymwybodol o agoriad swyddogol y Cynllun, a sut i wneud cais. Bydd y Swyddogion yn cysylltu â pherchnogion sydd ag eiddo gwag sydd hefyd yn gymwys ar gyfer y Grant. 

Bydd y Grant yn fodd i ganiatáu i fasnachwyr a landlordiaid, gan gynnwys y rheiny sydd mewn eiddo gwag, i gyflawni gwaith gwella, cynnal a chadw. Byddai hyn yn cynnwys paentio, araenu powdr ar gloriau, ac ystod o waith trwsio.

 Rhaid cael contractiwr dibynadwy i wneud y gwaith, a bydd y Cynllun yn cyfrannu mwyafswm uchaf o 75% tuag at gostau cymwys -  gydag uchafswm grant o £1,000. Mae'n bosibl y bydd grant pellach o £300 (mwyafswm cyfraniad o 75%) ar gael hefyd, lle mae angen llogi sgaffaldiau neu sgip er mwyn cyflawni'r gwaith. 

Bydd galwad agored ar gyfer y Cynllun yn dechrau o ddydd Llun, 9fed Hydref ymlaen. Ni fydd terfyn amser i fusnesau a landlordiaid gyflwyno'u ceisiadau. Y cyntaf i'r felin fydd piau hi o ran asesu ceisiadau, wedi'u cyfyngu i un fesul pob eiddo. 

"Cytunodd Aelodau o'r Cabinet fis diwethaf i arbrofi'r Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref newydd er mwyn gwneud canol trefi yn lleoedd mwy bywiog i ymweld â hwy," meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai "Bydd hyn, yn ei dro, yn hyrwyddo buddsoddi ac ymrwymiad pellach gan y sector preifat mewn canol trefi." 

“Bydd y broses gwneud cais yn agor i fusnesau yn Nhonypandy ac Aberpennar ar 9fed Hydref. Bu'r Cyngor yn cysylltu â cheiswyr posibl er mwyn gofalu'u bod yn hollol ymwybodol o'r Cynllun ac o sut i wneud cais am gyllid grant. Byddai modd ymestyn y Cynllun a'i gyflwyno i ganol trefi eraill Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol. 

"Mae gwella canol ein trefi yn fater o flaenoriaeth i'r Cyngor hwn. Daw'r buddsoddiad yma yn sgîl cam arwyddocaol cyflwyno parcio am ddim yn Nhonypandy, y Porth, ac Aberpennar. Ar ben hynny, rydym ni wedi lleihau taliadau yn Aberdâr a Phontypridd. Bydd hyn yn annog pobl i ymweld â chanol ein trefi."

Wedi ei bostio ar 09/10/17