Dathlwch Wythnos Llyfrgelloedd Lleol (9-14 Hydref) drwy ymweld â'ch llyfrgell leol. Byddwch chi'n synu ar faint sydd ar gael!
Mae yna gymaint o bethau i'w gweld a gwneud yn llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf gan gynnwys llyfrau, CDs, DVDs, a cysylltiad i'r we. Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n cynnal sesiynau Dydd Gwener Digidol ar gyfer pobl sydd angen cymorth ar sut i gyrchu'r we.
Mae llyfrgelloedd penodol yn cynnal sesiynau Dydd Gwener Digidol bob dydd Gwener yn ystod y tymor, rhwng 10am a hanner dydd. Gofynnwch i'ch llyfrgell leol am ragor o fanylion.
Mae Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd (Hydref 9-14) yn gyfle i'r Cyngor ddangos yr holl weithgareddau creadigol, arloesol ac amrywiol sydd ar gael yn llyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, gyda chyfrifoldeb dros Lyfrgelloedd: "Mae'r dyddiau lle roedd pobl yn mynd i'r llyfrgell er mwyn benthyg llyfrau yn unig wedi hen fynd.
"Mae yna rywbeth at ddant bawb, o bob oed, yn ein llyfrgelloedd. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd chwarae a dysgu i blant, cyfle i gysylltu â'r we am ddim a chyfrifiaduron er mwyn cwblhau gwaith ymchwil. Mae modd defnyddio'r cyfrifiaduron yma i chwilio am swyddi, neu gyngor ar hobïau, dechrau busnes a llawer mwy."
Mae modd i ddefnyddwyr y llyfrgell fenthyg hyd at wyth llyfr neu lyfr llafar ar un tro am hyd at 3 wythnos. Yn ogystal â hyn, mae modd i aelodau fenthyg hyd at dair eitem gerddorol neu DVD.
Os nad yw'r cyfnod benthyg tair wythnos yn ddigon hir, mae cyfle gyda chi i adnewyddu'ch benthyciadau ar-lein, mewn person neu dros y ffôn.
Yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd, bydd Llyfrgelloedd RhCT yn cynnig 'Cyfnod Rhoi Pardwn' er mwyn i fenthycwyr ddychwelyd unrhyw lyfrau hwyr a dileu unrhyw ddirwyon sydd heb eu talu. Dyma gyfle perffaith i ddychwelyd unrhyw lyfrau hwyr a dileu unrhyw ddirwyon sydd heb eu talu.
Fydd benthycwyr ddim yn cael dirwy am unrhyw lyfrau hwyr sy'n cael eu dychwelyd rhwng 9 ac 14 Hydref.
Nodwch: Mae'r Cyfnod Pardwn yn berthnasol i ddirwyon ar lyfrau yn unig. Bydd rhaid talu'r ffioedd arferol ar gyfer CDs/DVDs ac am unrhyw eitemau sydd wedi cael eu colli neu'u difrodi.
Oes gyda chi unrhyw amser sbar? Hoffech chi weithio mewn amgylchedd cyfeillgar sy'n rhoi boddhad? Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddol yn llyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyfforddiant rhad ac am ddim yn cael ei ddarparu.
Mae gwirfoddoli mewn llyfrgelloedd lleol yn gallu'ch helpu chi i fagu hyder, ddysgu sgiliau newydd ac mae'n beth gwych i ychwanegu at eich CV. Gofynnwch yn eich llyfrgell leol am ragor o wybodaeth.
Wedi ei bostio ar 10/10/2017