Mae mwy a mwy o bobl nag erioed yn cadw'n heini ac yn heidio i'w canolfannau hamdden agosaf, wrth i'r Cyngor barhau i wella'u cyfleusterau hamdden ac i fuddsoddi ynddynt.
Mae'r Cyngor yn benderfynol o barhau i wella cyfleusterau hamdden ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Dyna pam y cytunodd y Cabinet i gynnydd, cyn lleied â phosibl, yn nhâl aelodaeth Hamdden am Oes - y cyntaf mewn tair blynedd.
Mae buddsoddiad y Cyngor mewn cyfleusterau hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gost miliynau lawer o bunnoedd, wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn aelodaeth Hamdden am Oes.
Caiff y prisiau, ffïoedd, a thaliadau newydd eu gweithredu ar 1af Ionawr 2018. Ni fyddant yn codi tan 2020. Dyma un o'r mentrau hamdden gwerth gorau yn y wlad.
Mae'r Cyngor wedi cadw tâl aelodaeth Hamdden am Oes yn £35 ers 2015. Mae hyn yn £3 yn llai na thâl aelodaeth blaenorol CerdynAMwy.
Bu buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau hamdden ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad i hynny, bu cynnydd sylweddol yn aelodaeth Hamdden am Oes. Bu niferoedd na welwyd eu tebyg erioed o'r blaen yn heidio i gyfleusterau hamdden y Cyngor.
"Parhau mae'r Cyngor i fuddsoddi yn ei gyfleusterau hamdden," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Hamdden "Bellach, mae gennym rai o'r canolfannau hamdden gorau yn y wlad. Mae mwy a mwy o bobl yn manteisio ar y cyfleusterau diweddaraf o'r radd flaenaf sydd ar gael."
Yn ogystal â hyn, disgwylir i'n buddsoddiadau barhau. Cafwyd cytundeb i wneud gwaith gwella ar gyfleusterau newid mewn nifer o ganolfannau hamdden.
“Caiff y cynnydd bach o £2 fesul mis ar daliadau aelodaeth Hamdden am Oes ei rewi am ddwy flynedd. Mae hyn yn gwerth heb ei ail am arian, yn enwedig o ystyried y gwelliannau a wnaed i'n cyfleusterau hamdden drwy #BuddsoddiRhCT.
Bydd tâl aelodaeth Hamdden am Oes yn 2020 yn dal yn 1af y mis yn rhatach o hyd na beth ydoedd gyda hen gynllun Cerdyn A Mwy yn 2015.
Mae aelodaeth Hamdden am Oes yn caniatáu mynediad di-ben-draw i fanteisio ar ystafelloedd ffitrwydd, ystafelloedd iechyd, nofio, a llawer mwy, ym mhob un o naw cyfleuster hamdden Rhondda Cynon Taf.
Daw cynnydd prisiau ffïoedd a thaliadau hamdden i rym ar 1af Ionawr 2018. Hoffech chi gael manylion eich cyfleusterau hamdden agosaf? Croeso i chi ymweld ag http://www.rctcbc.gov.uk/cy/hafan.aspx
Wedi ei bostio ar 10/10/2017