Skip to main content

Rhialtwch Calan Gaeaf

Cynhelir digwyddiadau Rhialtwch Calan Gaeaf ar gyfer ymwelwyr iau yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yr Hydref yma. 

Bydd atyniad poblogaidd y Cyngor i deuluoedd yn cael ei drawsnewid yn llwyr am gyfnod penodol. Rhaid i deuluoedd ifanc beidio â'i golli! 

Cynhelir Rhialtwch Calan Gaeaf ar 30ain-31ain Hydref. Bydd yn cynnwys pob un o'r holl ddigwyddiadau traddodiadol sy'n gysylltiedig â Chalan Gaeaf. Ymhlith y rhain ceir Cerfio Pwmpen, Hela Pwmpen, Celf a Chrefft, ac hefyd Weithdai Gwneud Ffyn Hud ac Ysgubau. 

Yn ogystal â hyn, bydd Sioe Calan Gaeaf gyda Chunkie Russell, y difyrrwr plant, yn y brif ran. 

Nodwch:  Bydd cost ychwanegol am Gerfio Pwmpen ac am y Gweithdy Ffyn Hud ac Ysgubau. 

Bydd galw mawr am ddigwyddiadau Rhialtwch Calan Gaeaf. Fe'ch cynghorwn i archebu ymlaen llaw. 

"Atyniad teuluol yw Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth y Rhondda" meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Hamdden "Dyna pam mae'n ganolfan berffaith i'n Rhialtwch Calan Gaeaf, yn cynnig hwyl i'r teulu cyfan. 

"Bydd llawer o weithgareddau ar gael dros y ddeuddydd, a byddant yn siŵr o gadw'r rhai bach yn ddiddig. Cymerwch bip ar y lle yn ystod eich ymweliad, gyda golwg ar archebu ymweliad ag Ogof Siôn Corn yn ddiweddarach yn y flwyddyn." 

Saif Parc Treftadaeth y Rhondda ar safle hen Lofa Lewis Merthyr, Trehafod. Daeth gwaith cynhyrchu i ben yno ym 1983. A'r cynhyrchu yn ei anterth, roedd dros 1,160 o bobl yn gweithio yn y lofa, ac roedd yn cynhyrchu tua 1,250 tunnell o lo y diwrnod.

Dyma un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Cyngor bellach. Ymhlith yr elfennau gwreiddiol mae'r offer pen pwll, Tŷ Weindio Trefor, Iard y Lofa a Thŷ Weindio Bertie.

Mae'r atyniadau yn cynnwys Taith Dan Ddaear yr Aur Du, Caffi Bracchi, a'r Siop Anrhegion Cymreig Traddodiadol. Dyma'r lle delfrydol i gael hyd i anrhegion Nadolig unigryw!

Nodwch:  Bydd cost ychwanegol am Gerfio Pwmpen ac am y Gweithdai Ffyn Hud ac am y Gweithdai Ffyn Hud ac Ysgubau.

 

Wedi ei bostio ar 10/10/17