Skip to main content

Sioe Gerdd Byrfyfyr Showstopper yn dod i RCT!

Mae sioe gerdd comedi yn dod yn syth o'r West End yn Llundain i Rondda Cynon Taf yr wythnos yma. 

Mae pob cynhyrchiad o'r sioe, sydd wedi ennill Gwobrau Olivier, yn wahanol i'r cynhyrchiad diwethaf gan fod pob sioe yn adrodd stori newydd. 

Mae awgrymiadau'r gynulleidfa yn cael eu troi'n gynhyrchiad llawn canu a dawnsio ysblennydd yn y man a'r lle. Mae'r byrfyfyrio yma'n arwain at gynhyrchiad annisgwyl a doniol iawn..

Mae Showstoppers, The Improvised Musical, wedi bod yn adloni cynulleidfaoedd ers 2008. Mae'r cast yn perfformio storïau anhygoel a gwefreiddiol, caneuon arbennig, harmonïau llawn a dawnsiau gwych. Mae'r sioe yn addas ar gyfer cynulleidfa 14 oed neu'n hŷn. 

Mae'n addo bod yn ddosbarth meistr ar fyrfyfyrio ar lwyfan. 

Mae Shopstoppers, The Improvised Musical, yn dod i Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, ddydd Iau, 5 Hydref (7.30pm). £15 yw pris tocyn. I brynu tocynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ewch i www.rct-arts.co.uk

Wedi ei bostio ar 10/10/2017