Cynhelir Gwasanaeth Cysegru cyhoeddus y penwythnos yma ger Cofeb Ryfel newydd Llantrisant yn y Cylch Tarw.
Arweinir y Gwasanaeth Cysegru ar ddydd Sadwrn, 7fed Hydref gan y Caplan, Creighton Lewis, Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Canon Viv Parkinson, Ficer Plwyf Llantrisant. Croeso cynnes i bawb.
Seinir yr Utgorn Olaf gan Matthew Giles, Llantrisant. Bydd munud o ddistawrwydd hefyd er cof am y rhai a fu farw.
Yn dilyn naw mlynedd o waith ymchwil helaeth fe ddadorchuddiwyd Cofeb Ryfel Llantrisant ar Ddydd y Cadoediad, 2016. Mae'r Gofeb, a naddwyd o garreg Portland, yn ymgorffori enwau pob un o'r rheiny o'r gymuned a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod rhyfela a gwrthdaro.
Tua thair tunnell fetrig yw pwysau'r Gofeb Ryfel, a 2.8 metr (wyth troedfedd) yw'i huchder. Y hi bellach yw canolbwynt Cylch y Teirw, yng nghalon Llantrisant.
Crëwyd y Groes Aberth gan y cerflunydd enwog David Petersen, Sanclêr, mab y pencampwr paffio pwysau trwm Jack Petersen (1911-90).
Dadorchuddiwyd Cofeb Ryfel Llantrisant gan y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywydd Pwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant; y Cynghorydd Glynne Holmes, yr Aelod dros Ward Llantrisant; a Trevor Evans, gynt o Gatrawd Dug Wellington.
"Mae'r Gwasanaeth Cysegru yma yn benllanw bron degawd o ymchwil a gwaith gan Bwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywydd Pwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant.
"Mae'r Gofeb Ryfel eisoes yn ganolbwynt i'r gymdeithas leol, yn sefyll yn gadarn yng Nghylch y Teirw ac yn cynnig lle i aelodau o'r cyhoedd gael munud i fyfyrio.
"Fe saif er byth cof am y rheiny a roes eu bywydau drosom. Bydd y Gwasanaeth Cysegru yma yn cadarnhau ein hymrwymiad i gofio ac anrhydeddu pob un o'r bobl leol hynny sydd â'u henwau ar y Gofeb Ryfel.
Cymerir camau yn Llantrisant ar Ddydd Sadwrn er mwyn hwyluso'r digwyddiad hwn. Bydd ffyrdd ar gau o gwmpas y Cylch o 11.00yb o 12.30yp. Heddlu De Cymru fydd yn rheoli symudiadau traffig yn yr ardal. Bydd mynediad i gerddwyr ac i gerbydau argyfwng yn parhau.
Cynhelir Gwasanaeth Cysegru Cofeb Ryfel Llantrisant yng Nghylch y Teirw, Llantrisant, ddydd Sadwrn, 7fed Hydref, am 11.30yb. Mae croeso i bawb.
Wedi ei bostio ar 04/10/2017