Mae grŵp 'Glowyr Bach' ar gyfer plant ifainc yn benodol wedi cael ei sefydlu ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Glofeydd Cymru.
Ar y dydd Mercher cyntaf o bob mis, bydd sesiwn Glowyr Bach ar gyfer plant bach a babanod, yn cynnwys Amser Rhigymau, Adrodd Straeon, a llawer yn rhagor.
Bydd sesiwn gyntaf y grŵp Glowyr Bach, ar gyfer plant cyn-oed ysgol yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 1 Tachwedd o 11.00am tan 12.00pm. Da fyddai cadw lle ymlaen llaw i osgoi siom. Bydd y sesiynau'n £2 y plentyn, ond bydd y sesiwn gyntaf ar 1 Tachwedd AM DDIM.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, ac sydd â chyfrifoldeb am atyniadau i ymwelwyr: "Mae Amgueddfa Glofeydd Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn denu ymwelwyr o bob oedran o bedwar ban byd.
“Dw i wrth fy modd bod clwb y Glowyr Bach yn cael ei sefydlu yn yr atyniad poblogaidd i deuluoedd ar 1 Tachwedd, ar gyfer plant bach a babanod yn benodol. Trwy gyfrwng adrodd straeon a rhigymau, bydd y Grŵp yn darparu profiadau addysg y blynyddoedd cynnar a fydd o fudd mawr iddyn nhw yn y dyfodol.
“Mae Glowyr Bach yn cyfrannu at hyrwyddo cymdeithasu ymhlith plant ifanc iawn ac yn eu cynorthwyo i gyfathrebu â'i gilydd. Bydd y grŵp hefyd yn rhoi cyfle i rieni, cynhalwyr/gofalwyr, gwarcheidwaid a thad-cuod a mam-guod i gadw cysylltiad â'u cymuned ehangach.”
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Glofeydd Cymru, ar safle hen Lofa Lewis Merthyr. Cyn bo hir, bydd hefyd yn gartref i Ogof Teganau Siôn Corn boblogaidd, o 24 Tachwedd tan 31 Rhagfyr.
Ogof Teganau Siôn Corn – Trefnwch eich ymweliad ar-lein heddiw
Bydd sesiwn gyntaf grŵp y Glowyr Bach, ar gyfer plant cyn-oed ysgol yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 1 Tachwedd o 11.00am tan 12.00pm, yn yr Amgueddfa. Hoffech chi ragor o fanylion? Ffoniwch 01443 682036 neu anfon e-bost i DerbynfaParcTreftadaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Wedi ei bostio ar 05/10/17