Skip to main content

Disgyblion yn Rhoi Sêl eu Bendith i Ysgol Newydd

Mae plant o Gwmaman wedi rhoi sêl eu bendith i'w hysgol newydd drwy lofnodi'r fframwaith dur yn ystod eu hymweliad diweddaraf â'r safle.

Yn gwmni iddynt daeth y Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ymweliad er mwyn cadw golwg ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r Ysgol Gymunedol £7.2 miliwn newydd. Bydd hon yn disodli Ysgol Babanod Cwmaman o fis Medi 2018. Mae'r Ysgol Gymunedol newydd i Gwmaman yn cael ei hariannu drwy raglen #BuddsoddiRhCT y Cyngor, a thrwy Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

"Dim ond ychydig wythnosau yn ôl y bûm yn ymweld a'r safle, ac mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn wych," meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes "Mae'r ysgol £7,200,000 newydd i Gwmaman yn dechrau ymffurfio o flaen ein llygaid.

"Bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylchedd dysgu newydd i bobl ifanc yng Nghwmaman, gan gymryd lle'r ysgolion babanod a iau ar wahan sy'n gwasanaethu'r gymuned ar hyn o bryd. 

"Drwy ddod â'r ddwy ysgol at ei gilydd, bydd yr Ysgol Gymunedol newydd yn rhoi mantais gwell trosglwyddo, ac ethos ysgol sengl, i'r plant. 

“Bydd mantais ymarferol arall i rieni sydd â phlant oedran ysgol babanod ac ysgol iau hefyd. Ni fydd raid iddynt boeni am ollwng a chodi plant ar ddwy safle dros hanner milltir ar wahan.

"Yn ogystal â hyn, rydym ni wedi achub y cyfle i ddarparu lle chwarae gwell newydd, fel rhan o'r buddsoddiad mewn ysgol newydd i Gwmaman. Mae teuluoedd lleol a'u plant eisoes yn ei fwynhau yn fawr.   

"Mae'r Cyngor, gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwella cyfleusterau addysgol ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Dim ond un yn unig yw'r ysgol newydd yng Nghwmaman o'r rhai sy'n cael eu hadeiladu fel rhan o'r pecyn £115 miliwn cyfredol. Mae hwn yn cynnwys ysgol newydd i'r Pant, ac hefyd y prosiectau cyfredol yn y Rhondda a Thonyrefail.

"Ar ben hyn i gyd, rydym ni wedi cwblhau buddsoddi dros £9 miliwn mewn dwsinau o ysgolion ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Rhan yw hyn o'n rhaglen gwella ysgolion wrth i ni geisio gofalu ein bod yn darparu'r cyfleusterau dysgu gorau posibl."

Bydd gwaith ar yr Ysgol Gymunedol £7.2 miliwn newydd yn cynnwys y canlynol hefyd:

-          Mannau gollwng pwrpasol i rieni

-          Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd (AGADd)

-          Caeau chwarae glaswellt

-          Ardal gynefin gwyllt

-          Ystafell gymunedol o fewn yr ysgol 

Wedi ei bostio ar 06/10/2017