Skip to main content

Cwblhau gwaith ailadeiladu waliau cynnal, Ynysangharad Road

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau gwaith sylweddol i ailadeiladu wal gynnal yn Ynysangharad Road, Pontypridd.

Roedd darn o'r wal gynnal wedi disgyn ond, diolch i fuddsoddiad o £60,000, dechreuodd gwaith ei chwalu a'i hamnewid ym mis Gorffennaf. Mae'r cynllun wedi cynnwys sefydlogi, ailgodi, ac ailbwyntio darn 50 metr o'r wal.

Gosodwyd ffens o amgylch ur ardal dan sylw a effeithiwyd yn ystod y gwaith er mwyn diogelwch y cyhoedd a gadael i'r gwaith ailadeiladu ddechrau. Roedd angen rheoli traffig dros dro ar ddarn bychan o'r ffordd, ond does dim rhwystrau bellach.

Mae gwaith bellach wedi gorffen ac rydyn ni wedi cael gwared ar y mesurau rheoli traffig. Bydd peth gwaith oddi ar y ffordd yn cael ei wneud dros y diwrnodau nesaf.

"Ymgymerodd y Cyngor â'r gwaith sylweddol yma yn Ynysangharad Road ar ôl i ddarn o'r wal ddisgyn," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd. “Mae'r gwaith angenrheidiol yma er mwyn ailadeiladu'r wal wedi gwneud yr ardal yn fwy diogel i breswylwyr lleol a defnyddwyr ffyrdd.

“Rwy'n siwr y bydd preswylwyr a busnesau lleol yn croesawu'r newyddion fod y Cyngor wedi gorffen y gwaith yma bellach, diolch i fuddsoddiad o £60,000. Mae'r cynllun hwn yn dangos unwaith eto fod gwella priffyrdd yn Rhondda Cynon Taf, er budd a diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr, yn flaenoriaeth i'r Cyngor yma.

“Gwaith cymhleth oedd hwn, ac roedd gofyn am ymgymryd ag ef dros nifer o wythnosau. Bu'r Cyngor yn gweithio'n agos â'i gontractor er mwyn cwblhau'r cynllun cyn gynted â phosibl.

"Hoffwn i ddiolch i breswylwyr lleol a defnyddwyr ffyrdd am eu cydweithrediad wrth i'r cynllun hwn gael ei gyflawni."

Wedi ei bostio ar 10/10/17