Skip to main content

Antur Hudolus yn Ogof Sion Corn

Mae tocynnau ar werth bellach i Ogof Siôn Corn yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Unwaith eto, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi rhoi caniatâd i Siôn Corn a'i gynorthwywyr lanio'i sled yn ei atyniad poblogaidd i'r teulu. Bydd Siôn Corn yn agor ei Ogof yn yr hen lofa.

Nid Nadolig fydd y Nadolig heb ymweliad ag Ogof Siôn Corn. Er bod sbel i fynd cyn y Nadolig, mae galw mawr am y teithiau bob blwyddyn. Mae llawer o'r teithiau yn cael eu cadw fisoedd ymlaen llaw – yn enwedig y rheiny ar Noswyl Nadolig.

Mae cadw lle ar daith yn haws nag erioed o'r blaen. Un clic o'r llygoden, a bant â'r cart!

Ogof Siôn Corn: Cadwch le nawr!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, gyda chyfrifoldeb dros atyniadau i ymwelwyr: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Siôn Corn wedi gofyn am gael agor ei Ogof yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. Unwaith eto, mae'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb.

"Amser arbennig o'r flwyddyn yw'r Nadolig bob tro, a chryfhau'r hud a'r lledrith y mae Ogof Siôn Corn.

“Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad poblogaidd i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn. Mae'n denu ymwelwyr o bob rhan o bedwar ban byd. Heb os nac oni bai, bydd Ogof Siôn Corn yn ychwanegu rhywbeth at y profiad.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o Rondda Cynon Taf a thu hwnt.”

Bydd pob plentyn sy'n ymweld ag Ogof Siôn Corn yn cael ei dywys ar daith hud, ac ar ben hynny yn cwrdd â'r Gŵr Mawr ei hun ac yn derbyn anrheg i fynd adref.

Chaiff oedolion sy'n dod yn gwmni iddyn nhw ddim eu gadael allan chwaith – byddan nhw'n derbyn diod boeth a mins-pei wrth gyrraedd.

Bydd pob twll a chornel o Ogof Siôn Corn yn llawn o swyn a syndod i bawb o bob oed. Dyma un o'r atyniadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd bob blwyddyn ar draws y De i gyd.

Yn ogystal â hyn, bydd Glôb Eira Enfawr, a bydd cyfle i ymwelwyr adeiladu tedi yn Siop Deganau Siôn Corn! Neu beth am gael eich llun wedi’i dynnu gyda Siôn Corn? Bydd cost ychwanegol am hyn. Bydd hefyd deithiau gyda’r hwyr yn Ogof Siôn Corn.

Bydd Ogof Siôn Corn ar agor yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda bob dydd o 24 Tachwedd tan Noswyl Nadolig. Hoffech chi ragor o fanylion, a phrynu tocynnau? Croeso i chi fynd i www.rhonddaheritagepark.com

Wedi ei bostio ar 13/09/17