Skip to main content

Torfeydd yn croesawu Taith Gyfnewid Baton y Frenhines

Daeth cannoedd o bobl i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd, cartref Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, i groesawu Taith Gyfnewid Baton Gemau'r Gymanwlad 2018.

Cymerodd deg cludwr y baton, wedi'u dewis o'r Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â seren Cymru Wynne Evans, ran yn Nhaith Gyfnewid Gemau'r Gymanwlad 2018 yn ystod ei chyfnod yn Rhondda Cynon Taf.

Cychwynnodd Ei Mawrhydi'r Frenhines Daith Gyfnewid Baton y Frenhines yr Arfordir Aur 2018 ym mis Mawrth 2017 a chroesawodd cannoedd o bobl y daith ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Glaniodd y baton yn seindorf enwog y parc, lle arweinodd Wynne Evans Anthem Genedlaethol Cymru, yng nghwmni Côr Meibion Pontypridd, yng nghysgod Cofeb Evan James a James James.

Wedi'i gyflwyno i gyfansoddwyr Anthem Genedlaethol Cymru, mae'r cerflun yn sefyll ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Gadawodd Baton y Frenhines, yn rhan o'i daith 388 diwrnod o gwmpas gwledydd y Gymanwlad, safle seindorf y parc a chyrhaeddodd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.

Bydd y Baton yn teithio 230,000 o gilomedrau ar yr hynt i'w gyrchfan derfynol, sef Seremoni Agor Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur ar 4 Ebrill 2018.

Cafodd Baton y Frenhines ei gludo gan ddeg llysgennad ifanc o'r Fwrdeistref Sirol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Daeth cannoedd o bobl i groesawu Taith Gyfnewid Baton y Frenhines i Rondda Cynon Taf, bedair blynedd ar ôl ei hymweliad diwethaf.

"Roedd awyrgylch anhygoel o gwmpas Parc Coffa Ynysangharad, lle roedd cyfle i bobl o bob oedran weld baton enwog y Frenhines yn agos. Mae wedi cael ei gludo gan lawer o bobl ar hyd ei daith o gwmpas y Gymanwlad.

"Mae hyn wedi bod yn fraint fawr i'n Bwrdeistref Sirol ac wedi helpu i ddangos ein Parc Coffa Ynysangharad gwych sy'n gartref i Lido Cenedlaethol Cymru."

Yn ogystal â Thaith Gyfnewid Baton y Frenhines, trefnodd Carfan Chwaraeon RhCT y Cyngor bentref chwaraeon yn y parc, lle roedd modd i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Meddai Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau'r Gymanwlad: "Mae Tîm Cymru yn dod â'r rheiny sy'n cystadlu neu sy'n cefnogi'n hathletwyr at ei gilydd i gyflawni'u gorau glas yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Bydd y daith gymhwysol yma yn rhoi cyfle i bawb, sy ddim yn mynd i'r Arfordir Aur, fod yn rhan o brofiad bythgofiadwy."
Wedi ei bostio ar 07/09/2017