Skip to main content

Gwaith wedi'i gwblhau ar Gylchfan Cwm-bach

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau gwaith ar Gylchfan Cwm-bach yn rhan o'i fuddsoddiad diweddaraf i wella llif traffig ar hyd coridor yr A4059.

Diolch i fuddsoddiad gwerth £225,000 gan raglen Gwneud Defnydd Gwell y Cyngor, dechreuodd gwaith gwella ar y cylchfan ym mis Gorffennaf. Cafodd y gwaith ei amserlenni ar gyfer gwyliau'r haf er mwyn osgoi achosi gormod o aflonyddwch.

Roedd y gwaith yn cynnwys lledaenu'r ffordd gerbydau ble mae Canal Road yn cwrdd â'r cylchfan. Bydd hyn yn caniatau i'r ddwy lôn yn y ddau gyfeiriad gael eu hymestyn. Bydd y cynllun yma'n darparu lôn ddal ar y ddwy gyffordd sydd agosaf at y cylchfan.

Dyma brosiect sy'n rhan o gyfres ehangach er mwyn gwella llif traffig yn ystod cyfnodau prysur ar y ffordd boblogaidd yma drwy Gwm Cynon. Mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn lonydd troi wrth gylchfannau'r Ynys ac Asda, yn ogystal â lonydd troi i'r dde ar yr A4059 yn Aberpennar.

Yn y cyfamser, mae cynydd da yn cael ei wneud ar gynllun blaenllaw Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar. Bydd gwaith i gynnig lonydd troi i'r dde newydd yn agos at yr orsaf betrol yng Nghwm-bach yn dechrau cyn bo hir.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod y Cabinet ar Faterion Priffyrdd: "Mae'r buddsoddiad yma gwerthu £225,000 gan y Cyngor yn rhan o gyfres o fuddsoddiadau er mwyn gwella llif traffig ar hyd coridor yr A4059. Mae hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor. Mae miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf yn dibynnu ar y ffordd yma. Dyma pam mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi ynddi drwy gynllun #buddsoddiadRhCT.

"Mae'r Cyngor yna arddangos ei fod yn barod i fuddsoddi a diogelu'r ffordd allweddol yma er lles y preswylwyr lleol a'r modurwyr wrth i waith barhau ar gynllun blaenllaw Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar, yn ogystal â'r gwaith i greu dwy lôn troi i'r dde ar yr A4059 yng Nghwm-bach a fydd yn dechrau cyn bo hir."
Wedi ei bostio ar 08/09/2017