Mae Ffordd Mynydd y Maerdy wedi hail-agor yn dilyn y gwaith adfer yn sgîl tirlithriadau sylweddol a'r prosiect gwella ehangach i'r porth hanfodol rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda.
Cafodd y ffordd ei hailagor nos Fercher. Dyma oedd y cyfle cynharaf i agor y ffordd yn dilyn cwblhau'r gwaith a'r holl wiriadau diogelwch terfynol yn gynharach yn y diwrnod. Bydd contractwyr y Cyngor yn parhau â'r gwaith ymylol oddi ar y briffordd. Bydd dull rheoli traffig dros dro yn weithredol er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei gwblhau'n ddiogel dros yr wythnosau nesaf.
Bydd Stagecoach yn gweithredu ei wasanaeth 172 Aberdâr-Porthcawl gan ddefnyddio Ffordd Mynydd y Maerdy o 05.35am ddydd Iau, 28 Medi.
Bydd gwasanaethau bysiau ysgol yn defnyddio'r ffordd o ddydd Iau, 28 Medi. Yr unig eithriad fydd Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr, sy'n mynd i barhau i weithredu ar hyd Ffordd Mynydd y Rhigos.
Roedd rhaid ymgymryd â'r prosiect hanfodol yma yn dilyn tirlithriad oherwydd glaw parhaus ym mis Rhagfyr 2015. Effeithiodd hyn ar ddarn 150m o dir ar ochr Aberdâr y ffordd. Rydyn ni'n manteisio ar gau'r ffordd er mwyn ymgymryd â gwelliannau ehangach i lwybr y mynydd ar gyfer y dyfodol, diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor drwy rhaglen #BuddsoddiadRhCT. Roedd y cynllun i gyd yn cynnwys:
- Gosod haen concrit wedi'i atgyfnerthu 140m i gryfhau'r ardal y digwyddodd y tirlithriad
- Gwaith stancio dros 140m, i sefydlogi ochr y mynydd
- Gosod gwaith draenio newydd ar y mynydd ac yn y briffordd.
- Codi RAMWALL newydd er mwyn dal yn ôl y bryn.
- Rhwystrau damweiniau newydd wedi'u gosod ar naill ochr y mynydd.
- Gosod wyneb newydd am 6km rhwng Maerdy ac Aberdâr.
Yn ogystal â hynny, roedd y cynllun yn cynnwys ystod o welliannau i ddiogelwch y llwybr yn dilyn cais llwyddiannus am Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys marciau perygl, ail-farcio ffyrdd, stydiau ffordd adlewyrchol, a mesurau i leihau'r potensial ar gyfer merddwr.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: "Drwy gydol y cynllun cymhleth yma, gyda chwe maes gwaith mawr, bu'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwyr i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn ystod mis Medi - sef y targed a gafodd ei osod ar ddechrau'r prosiect. Roedd hyn yn gamp ynddo'i hun o ystyried natur cymhleth y gwaith a oedd ei eisiau a'r cyfnodau o dywydd garw rydyn ni wedi'u cael.
"Gyda'r prif waith bellach ar ben, rwy'n siwr bydd gyrwyr ar hyd Mynydd y Maerdy yn gwerthfawrogi'n bod ni wedi ail-agor y ffordd ar y cyfle cynharaf.
“Bydd defnyddwyr y ffyrdd yn dal i weld contractwyr yn cwblhau gwaith ymylol oddi ar y briffordd. Bydd angen goleuadau traffig dros dro dros yr wythnos nesaf. Mae angen y rhain er mwyn cwblhau'r gwaith yn ddiogel.
“Roedd y gwaith adfer tirlithriadau yn hanfodol, ac er bod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion er mwyn lleihau'r amhariad. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd a thrigolion am eu cydweithrediad drwy gydol yr holl broses.
"Roedd cau'r ffordd hefyd wedi galluogi'r Cyngor i gwblhau gwelliannau ffyrdd ehangach, fel y rhai a gafodd eu cyflawni ar Ffordd Mynydd y Rhigos, sydd wedi gweld y llwybr 6km yn cael arwyneb newydd yn ogystal â gweithredu nifer o welliannau diogelwch er mwyn sicrhau bod y ffordd yn iawn ar gyfer y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 28/09/2017