Skip to main content

Caniatâd Cynllunio – Cynllun Adfywio Safle Hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod cynllun adfywio blaenllaw safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf (Taff Vale) ym Mhontypridd wedi derbyn caniatâd cynllunio.

Cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor y cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer cynllun ailddatblygu safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf ddydd Iau, 7 Medi. Dyma garreg filltir enfawr ar gyfer y cynllun blaenllaw yma, sy'n caniatáu i'r Cyngor gynnig 14,693 metr sgwâr o arwynebedd llawr yn rhan o ddatblygiad defnydd cymysg ar gyfer swyddfeydd yn bennaf mewn tri adeilad nodedig.

Daeth yr Awdurdod Lleol yn berchennog ar safle Dyffryn Taf ym mis Ebrill 2015, yn dilyn nifer o gynlluniau aflwyddiannus gan y sector preifat i adnewyddu'r ardal. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith dymchwel ar y safle ac mae wedi penodi cwmni Willmot Dixon yn gontractwr er mwyn cefnogi gwaith cyflwyno'r cynllun.

Bydd y safle yn dod yn gartref i weithredwr Metro De Cymru, Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â llyfrgell sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, pwynt cyswllt i gwsmeriaid y Cyngor a chyfleuster ffitrwydd newydd. Bydd man parcio ac ardal gwasanaethu/gylchredol yn cael eu darparu ar lawr isaf y safle.

Bydd Adeilad A (sy fwyaf agos i Faes Parcio Gas Road) ac Adeilad B (a fydd yng nghanol y tri adeilad) yn cynnwys nifer fawr o swyddfeydd. Adeilad C (sy fwyaf agos i Heol y Bont) fydd y porth i Bontypridd. Bydd yn cynnwys llyfrgell newydd, pwynt cyswllt cymorth a chyngor i gwsmeriaid y Cyngor, caffi, ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau i'r gymuned a chanolfan hamdden a ffitrwydd newydd.

Bydd gwagle o 14 metr yn cael ei gadw rhwng pob adeilad er mwyn darparu mynediad i'r cyhoedd ac ardal gylchredol, ac i gynnig golygfeydd o Barc Ynysangharad o Taff Street. Mae'r cynlluniau yn cynnwys tri man gwylio a fydd yn cynnig golygfeydd o lan yr afon.

Rydyn ni'n disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2018, a bydd y cynllun wedi'i gwblhau yn 2019. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ffilm sy'n dangos sut bydd y cynllun yn edrych ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai, "Mae derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun adfywio blaenllaw Dyffryn Taf yn garreg filltir enfawr. Mae'n rhoi neges glir bydd y datblygiad yma, ar safle strategol yng nghalon Pontypridd, yn cael ei gynnig gan y Cyngor.

"Bydd y cynllun yn cynnig swyddi i Bontypridd, ac mae ganddo botensial i ddenu rhagor o bobl i ganol y dref. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol i'r busnesau sy wedi'u hen sefydlu, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn denu rhagor o fasnach ac ymwelwyr i'r ardal.

"Ynghyd â'r cynlluniau mawr i adfywio'r YMCA sydd ar garreg drws y safle, bydd cynllun adfywio Dyffryn Taf yn cynnig hwb i Bontypridd. Mae'r ddau gynllun yn creu cyffro yn yr ardal leol.

"Mae'r cynllun yma, sy'n flaenoriaeth i'r Cyngor, yn parhau i symud yn ei flaen, yn dilyn y gwaith dymchwel, penodi contractwr a derbyn caniatâd cynllunio llawn. Mae'r gwaith yn parhau i symud yn ei flaen a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau'n gynnar yn 2018."

Wedi ei bostio ar 08/09/2017