Mae Rasys Nos Galan unwaith eto wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhedeg y DU 2018 – ac mae modd i chi fwrw'ch pleidlais nawr!
Mae trefnwyr yr achlysur byd-enwog yma, sy'n cael ei gynnal yn Aberpennar ar Nos Galan ac a enillodd Wobr Ras Hwyl Orau'r DU yn 2014, yn gobeithio adennill y wobr yn 2018.
Pleidleisiwch dros Rasys Nos Galan yng Ngwobrau Rhedeg y DU. Ewch i www.therunningawards.com
Agorodd y broses gofrestru ar gyfer Rasys Nos Galan am 10am, fore Mawrth, 5 Medi, ond mae'r Ras Elit a'r Ras Hwyl 5K i Oedolion bellach yn LLAWN – a hynny bedwar mis cyn i'r Rasys gael eu cynnal.
Bydd miloedd o bobl yn ymgynnull ar y strydoedd i gefnogi rhedwyr o bob oed a gallu ac er mwyn gweld Rhedwr Dirgel y Nos Galan.
Caiff Rasys Nos Galan eu trefnu bob blwyddyn gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Phwyllgor Nos Galan.
Mae Gwobrau Rhedeg y DU yn seremoni flynyddol sy'n dathlu goreuon y diwydiant rhedeg, a'i ddiwylliant – gan gynnwys y rasys hwyl gorau, yr achlysuron rhedeg gorau, y marathons gorau, yr esgidiau rhedeg gorau a'r ‘aps’ rhedeg mwyaf arloesol.
Unwaith eto, mae Rasys Nos Galan ar y rhestr fer yn nosbarth 'Ras Hwyl Orau'r DU'.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: "Mae Rasys Nos Galan mor boblogaidd ag erioed, ac mae'r ffaith bod cymaint o bobl wedi cofrestru ar gyfer y Ras Elit a'r Ras Hwyl i Oedolion mor fuan ag erioed yn dyst i hyn.
"Mae'n fraint ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr ar gyfer Gwobr Ras Hwyl Orau'r DU unwaith eto. Cefnogwch ni drwy bleidleisio droson ni.
"Mae'r seremoni wobrwyo fawreddog yma'n dathlu goreuon y diwydiant rhedeg yn y DU. Mae Rasys Nos Galan yn achlysur i'r teulu sydd wedi ennill ei blwyf ac sy'n denu cyfranogwyr a gwylwyr o bob rhan o'r byd.
"Roedd ennill y Wobr Rhedeg yn 2014 yn arbennig i'r holl drefnwyr sy'n gysylltiedig â Rasys Nos Galan. Byddai ennill y wobr unwaith eto yn 2018 yn deyrnged arbennig i sylfaenydd y ras, Bernard Baldwin MBE, a fu farw ar 3 Ionawr eleni.
"Gwnewch yn siwr mai Rasys Nos Galan yw ras hwyl orau'r Deyrnas Unedig!"
Pleidleisiwch dros Rasys Nos Galan yng Ngwobrau Rhedeg y DU. Ewch i www.therunningawards.com
Wedi ei bostio ar 27/09/17