Daw gweledigaeth erchyll o brofiad gwneud ffilmiau arswyd i Daith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth y Rhondda, atyniad poblogaidd i dwristiaid Rhondda Cynon Taf.
Bydd sioe X Scream Calan gaeaf yn dychwelyd i hen Lofa Lewis Merthyr, gyda thema newydd sbon.
Os dewch i ymweld â'n hatyniad dychryn gyda'i thema Calan Gaeaf, fe gerddwch i ganol set ffilm - a chael clyweliad am ran yn eich ffilm arswyd eich hun.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wrth ei fodd yn croeso atyniad Calan Gaeaf X Scream yn ôl i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda.
"Roedd X Scream Calan Gaeaf yn ddigwyddiad thema Calan Gaeaf poblogaidd iawn y llynedd," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "a denwyd ymwelwyr o bell ac agos.
"Rydym wrth ein bodd fod trefnwyr y digwyddiad yn dod yn ôl er mwyn hala dychryn ar y cyhoedd ag atyniad fydd yn rhewi gwaed y dewraf."
Dyma'ch cyfle i gwrdd â'r arswydus Vlad Volkov - 'Y Blaidd' i'r rhai sy'n ei adnabod. Dyma athrylith y sgrîn fawr os buodd un erioed, yn mynnu cael y sgrechfeydd mwyaf dychrynllyd gan bawb a ddaw i'w sesiwn gastio. Bydd Vlad yn arfer pob arswyd a chreulondeb sydd angen er mwyn creu'r ffilm gwaed a llafnau berffaith.
Dewch am dro dychrynllyd drwy set ffilm glasurol, yn llawn sŵn a swyn parthau braw ac arswyd wrth i chi fentro i mewn i'r cysgodion. Ym mhob un o'r parthau, byddwch chi'n wynebu troeon trwstan a phrofiadau ffromllyd yn syth allan o olygfa mewn ffilm arswyd.
Ie, dewch am dro drwy gysgodion yr adeiladau arswydus a'r twneli torcalonnus, a syllu i lygad y pwll ...Bydd y cyfan fel stiwdio ffilm lle tywelltir gwaed ar y sêr. (Tua 45 o funudau fydd hyd y daith - os na fyddwch wedi rhedeg am eich bywyd!)
Ond a fyddwch chi'n byw yn ddigon hir i gyrraedd y sgrîn fawr? Neu a gewch chi'ch torri allan o'r olygfa - neu'ch rhwygo o'r sgrîn yn gyfan gwbl? Cofiwch fod Vlad yn disgwyl y perfformiad gorau sy'n posibl. Os na fyddwch chi'n cwrdd â'i safonau arswydus o uchel ... oes angen dweud rhagor?
Cynhelir X Scream CUT yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth y Rhondda, am 14 o nosweithiau ym mis Hydref. Ydych chi'n 16 oed a throsodd? Dewch i gael eich dychryn o'ch croen! Mae'r tocynnau yn amrywio rhwng £16.99 a £22.99. Hoffech chi gael rhagor o fanylion? Croeso i chi ymweld ag: www.x-scream.com.
Wedi ei bostio ar 12/09/2017