Skip to main content

Mae'r Cyngor yn paratoi i groesawu ceisiadau ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnal nifer o Sesiynau Gwybodaeth, dan arweiniad Interlink, yn ystod Ebrill 2021. Ar ôl hynny, bydd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Cafodd y Gronfa ei chyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak yn rhan o'r Gyllideb yn gynharach y mis yma a chafodd manylion pellach eu darparu i Awdurdodau Lleol ar 18 Mawrth.

Mae gwybodaeth gyfredol gan Lywodraeth y DU am y Gronfa ar gael yma.

Mae'r gronfa'n cael ei gweinyddu ar lefel genedlaethol gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac ar lefel leol gan Awdurdodau Lleol. Bydd modd i ystod o ymgeiswyr prosiect gyflwyno cynigion i'r Cyngor, gan gynnwys darparwyr addysg, sefydliadau'r trydydd sector, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol (ond heb ei chyfyngu i'r rhain).   

Bydd y prosiectau yma'n cael eu rhestru yn ôl eu gallu i ddiwallu anghenion lleol neu Strategol a nodwyd, cyn cael eu hanfon at y Weinyddiaeth i'w hystyried a'u cymeradwyo. Mae hon yn broses gystadleuol a ni fydd pob cais yn llwyddiannus.

Bydd y cynigion yn canolbwyntio ar y meysydd datblygu canlynol:

  • Buddsoddi mewn sgiliau
  • Buddsoddi ar gyfer busnes lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
  • Helpu pobl i ddod o hyd i swyddi

Bydd modd i Awdurdodau Lleol gyflwyno rhestr fer o gynigion gwerth hyd at uchafswm o £3 miliwn ar gyfer eu hardal nhw.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae Rhondda Cynon Taf wedi'i nodi fel un o 100 o ardaloedd yn y DU fyddai'n gallu elwa o'r Gronfa Adfywio Cymunedol.

“Rydyn ni'n croesawu’r cyhoeddiad yma am gyllid. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod amserlenni'r cyllid a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn gaeth yn ddiangen gan ystyried y sefyllfa bresennol, gan roi pwysau ychwanegol ar y Cyngor sy'n blaenoriaethu'i adnoddau i gefnogi'r frwydr yn erbyn Covid-19 ar hyn o bryd.

“Os yw ein cais ni'n llwyddiannus, bydd yr arian yma'n helpu i gefnogi ein busnesau lleol a grwpiau cymunedol i ddatblygu cyfleoedd i drigolion a gwella'u sgiliau.”

Rhaid i bob Prosiect sydd wedi'u cymeradwyo gael eu cwblhau yn ystod 2021/22 (hyd at fis Mawrth 2022).

Rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno'i restr derfynol o gynigion i'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol erbyn 12pm, 18 Mehefin 2021

Bydd manylion am y Sesiynau Gwybodaeth Lleol a sut i wneud cais ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol yn cael eu rhannu'n fuan.

Peidiwch â chyflwyno cais eto gan nad yw'r Gronfa ar agor eto.

Wedi ei bostio ar 16/04/21