Skip to main content

Cynllun Adnewyddu Cwlfer yn Nheras Bronallt

Bronallt culvert

Bydd cynllun amnewid cylfert yn cychwyn y mis nesaf yn Nheras Bronallt yn Abercwmboi, ar ôl i'r Cyngor ddyfarnu'r contract ar gyfer y gwaith i Calibre Contracting Ltd.

Disgwylir i'r cynllun ddechrau o'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 17 Mai a rhagwelir y bydd yn para am gyfnod o chwe wythnos, yn amodol ar dywydd ffafriol ac amodau tir.  Bydd y gwaith yn gwella gwytnwch llifogydd y gilfach a'r cylfat yn y lleoliad yn sylweddol, gan hefyd ddiogelu'r gwasanaethau cyfleustodau a'r briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm - gyda'r ardal yn dioddef llifogydd mawr yn ystod tywydd digynsail Storm Dennis yn benodol.

Bydd y gwaith adnewyddu yn cael ei ariannu trwy fuddsoddiad oddeutu £165,000 sy'n cynnwys cyllid gan Gyngor RhCT a Chronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, gan olygu bod cost gyffredinol y gwaith sy'n gysylltiedig â llifogydd yn y cwrs dŵr yma bellach dros £300,000. 

Bydd y cynllun yn gweld tua 12 metr o hen gylfat o faen carreg o dan y B4275 yn Nheras Bronallt a'r cefnfur presennol wrth y ceg yn cael eu disodli, gyda strwythur newydd a mwy a chwlfer pibell yn lle'r rheiny. 

Disgwylir peth aflonyddwch yn lleol trwy gydol y gwaith, trwy ddefnyddio goleuadau traffig dros dro i reoli traffig cerbydau a cherddwyr er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y briffordd a'r gweithlu.

 

@font-face {font-family:"Cambria Math"; panose-1:2 4 5 3 5 4 6 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:roman; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:-536870145 1107305727 0 0 415 0;}@font-face {font-family:Calibri; panose-1:2 15 5 2 2 2 4 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:swiss; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:-536859905 -1073732485 9 0 511 0;}p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-unhide:no; mso-style-qformat:yes; mso-style-parent:""; margin:0cm; mso-pagination:widow-orphan; font-size:11.0pt; font-family:"Calibri",sans-serif; mso-fareast-font-family:Calibri; mso-fareast-theme-font:minor-latin;}p {mso-style-noshow:yes; mso-style-priority:99; mso-margin-top-alt:auto; margin-right:0cm; mso-margin-bottom-alt:auto; margin-left:0cm; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:"Times New Roman",serif; mso-fareast-font-family:"Times New Roman";}.MsoChpDefault {mso-style-type:export-only; mso-default-props:yes; font-size:11.0pt; mso-ansi-font-size:11.0pt; mso-bidi-font-size:11.0pt; font-family:"Calibri",sans-serif; mso-ascii-font-family:Calibri; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-fareast-font-family:Calibri; mso-fareast-theme-font:minor-latin; mso-hansi-font-family:Calibri; mso-hansi-theme-font:minor-latin; mso-bidi-font-family:"Times New Roman"; mso-bidi-theme-font:minor-bidi; mso-fareast-language:EN-US;}.MsoPapDefault {mso-style-type:export-only; margin-bottom:8.0pt; line-height:107%;}div.WordSection1 {page:WordSection1;}
Wedi ei bostio ar 21/04/21