Bydd teithiau rhatach ar fysiau yn cael eu cynnig eto yn Rhondda Cynon Taf yn ystod gwyliau haf yr ysgol eleni (dydd Sadwrn 19 Gorffennaf i ddydd Sul 31 Awst 2025) – bydd tocyn unffordd pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn y Fwrdeistref Sirol yn costio uchafswm o £1.50.
Dyma'r seithfed tro i brisiau bysiau gael eu gostwng yn Rhondda Cynon Taf ers haf 2023 ac roedd hyn ar waith ddiwethaf ym mis Ebrill 2025 ar gyfer cyfnod gwyliau'r Pasg. Fodd bynnag, nid dyma fydd y tro olaf eleni, gan fod cynlluniau eisoes ar y gweill i'r cynllun ddychwelyd ar gyfer mis Rhagfyr 2025! Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.
Eleni, mae'r cap wedi cynyddu i £1.50, sy'n dal i gynrychioli arbedion sylweddol i ddefnyddwyr bysiau. Dros y tair blynedd diwethaf, roedd cap o £1 ar brisiau bysiau, hyd yn oed yn wyneb costau tanwydd a oedd yn codi'n sylweddol a chostau gweithredwyr a oedd yn cynyddu. Er mwyn sicrhau bod modd i ni barhau i ddarparu teithiau rhatach ar fysiau i drigolion yn ystod cyfnodau allweddol, mae angen cynnydd bach yn y cap i gydbwyso costau sy'n codi'n barhaus.
Bydd y teithiau bws rhatach yn berthnasol dros gyfnod cyfan gwyliau'r haf, o ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf tan ddydd Sul 31 Awst 2025. Bydd yn berthnasol i bob taith sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - a bydd yn berthnasol i bob gweithredwr bysiau. Bydd y teithiau bws rhatach ar gael o'r gwasanaeth cyntaf i'r gwasanaeth olaf bob dydd, heb unrhyw gyfyngiadau amser ar waith ar gyfer cymudwyr.
Mae'r mesur wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol a'i nod yw helpu i leihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac annog pobl i fynd allan a mwynhau’r holl bethau sydd gan Rondda Cynon Taf i'w cynnig. Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol wrth leihau teithiau car diangen trwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis arall deniadol, lleihau tagfeydd a llygredd, ac arbed arian i bobl ar yr un pryd.
Mae'r cynllun yma wedi bod yn bosibl unwaith eto diolch i gyllid pwysig gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Yn ystod cyfnod y cynnig, rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bob tro rydyn ni’n cyflwyno ein cyfnodau teithiau bws rhatach, mae’r adborth bob amser yn gadarnhaol gan drigolion. Rwy'n falch bod modd i'r Cyngor a gweithredwyr bysiau lleol gynnig y cynllun eto drwy gydol gwyliau'r haf, gan helpu trigolion i arbed rhywfaint o arian a chael y cyfle i fwynhau canol trefi, parciau ac atyniadau gwych ledled Rhondda Cynon Taf.
"Mae gweithredwyr bysiau wedi nodi cynnydd amlwg yn nifer y bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau bysiau lleol yn ystod cyfnodau blaenorol y cynnig, wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag dal y bws. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio o ddydd i ddydd - i ddiogelu'r amgylchedd, lliniaru tagfeydd ar ein ffyrdd, a lleihau amseroedd teithio.
“Bydd y cynnig unwaith eto’n berthnasol i bob taith bws sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Rhondda Cynon Taf, a’r gobaith yw y bydd y ddarpariaeth hon yn helpu i annog pobl i fynd i fwynhau’r ardal leol, ymweld â chanol ein trefi bywiog ac amrywiol, a manteisio ar y cyfle i ymweld â’r cannoedd o barciau a mannau chwarae gwych sydd gyda ni'n lleol.
"Unwaith eto, rydyn ni'n croesawu'r cymorth pwysig gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n darparu cyllid ar gyfer cynlluniau sy'n helpu i fynd i'r afael â chostau byw uchel. Dyfarnwyd cyfanswm o £1.2m i'r Cyngor y llynedd, ac mae £1m ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer 2025/26, gan ein galluogi i barhau i gyflwyno mesurau fel teithiau rhatach ar fysiau yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
Wedi ei bostio ar 02/07/2025