Mae menyw o Donypandy wedi dysgu gwers ar ôl i'w gwastraff gael ei ddarganfod ym Mhen-rhys!
Credir bod Ms Tyler Marie Richards o Stryd y Bont, Tonypandy, wedi talu rhywun yn ddidwyll i gael gwared ar ei gwastraff a oedd yn cynnwys 15 bag du a 4 bag ailgylchu – gyda phob un yn cynnwys gwastraff cyffredinol, bocs cardbord, cwt ci plastig, bin plastig du a gwastraff cyffredinol rhydd. Cafodd y gwastraff ei dipio yn Heol Teifionydd, Pen-rhys, gan y person a gafodd ei dalu ganddi i gael gwared ar yr eitemau.
Doedd Ms Richards ddim yn fodlon ymgysylltu â Swyddogion Gorfodi a doedd hi ddim wedi mynychu nifer o gyfweliadau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 mewn perthynas â'r gwastraff a gafodd ei dipio a'i ddarganfod.
Felly, penderfynwyd dwyn achos llys yn ei herbyn am beidio â rheoli ei gwastraff ac am gyflawni trosedd o dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Yn gynharach y mis yma, cafwyd Ms Richards yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, a chafodd ddirwy o £120, costau gwerth £255.51 (costau glanhau yn unig) a gordal i ddioddefwyr o £48 – sef cyfanswm o £423.51.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon BYTH yn cael eu goddef. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein strydoedd, ein lonydd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r unigolion sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Mae ein carfanau'n gweithio'n galed i gadw ein strydoedd a'n lonydd cefn yn lân, a fydd achosion o dipio’n anghyfreithlon o unrhyw fath ddim yn cael eu goddef."
"Mae'r achos yma'n atgoffa perchnogion tai neu fusnesau – os ydych chi'n talu rhywun, ac eithrio’r Cyngor, i gael gwared ar eich gwastraff, dylech chi bob amser wirio bod gyda nhw drwydded cludo gwastraff a gofyn am nodyn trosglwyddo gwastraff. Os caiff eich gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon, gallech chi dderbyn dirwy, ynghyd â'r unigolyn neu'r cwmni a gafodd ei dalu gennych chi i gael gwared arno.
"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma fod yn cael ei wario ar wasanaethau rheng flaen allweddol yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael i ni i ddwyn yr unigolion hynny sy'n gyfrifol i gyfrif. Mae nifer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y byddai modd mynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu y byddai modd cael eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."
Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn, wythnosol ar gyfer casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu, o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Instagram a TikTok neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 02/07/2025