Mae dyn wedi derbyn dirwy o dros £1000 ar ôl iddo adael ei gar mewn ystad ddiwydiannol brysur yn Rhondda Cynon Taf.
Ym mis Rhagfyr 2024, derbyniodd Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd y Cyngor gŵyn mewn perthynas â cherbyd oedd wedi'i adael mewn ystad ddiwydiannol, gan achosi trafferth.
Pan ymwelodd Swyddog Gorfodi â'r safle, cafodd y cerbyd - Honda Civic 2006, ei asesu cyn gosod sticer rhybudd arno yn unol â Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978, gan nodi bod y cerbyd yn ymddangos fel petai wedi'i adael yno. Roedd yr Hysbysiad Rhybudd yn nodi bod gan berchennog y cerbyd 14 diwrnod i'w symud cyn i’r Cyngor gymryd camau pellach.
Nodwyd mai perchennog y cerbyd oedd Callum Johnson o ardal Glynrhedynog, Cwm Rhondda. Methodd Mr Johnson â symud y cerbyd cyn pen y 14 diwrnod felly anfonwyd llythyr ato yn rhoi gwybod y byddai'r Cyngor yn cael gwared â'r cerbyd os nad oedd y cerbyd yn cael ei symud cyn pen 7 diwrnod o ddyddiad y llythyr. Nododd y llythyr hefyd y byddai’n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.
Ni chafodd y cerbyd ei symud oddi yno ac roedd yn parhau i achosi trafferth yn Ystad Ddiwydiannol Green Meadow, Llantrisant. O ganlyniad i hyn, yr unig ddewis yn yr achos yma oedd symud y cerbyd a threfnu i’r cerbyd gael ei wasgu.
Cafodd y cerbyd ei symud a threfnu i’r cerbyd gael ei wasgu, a derbyniodd Mr Johnson Hysbysiad Cosb Benodedig a gofynnwyd iddo dalu £200. Anwybyddodd Mr Johnson y llythyr yma, a dau lythyr pellach oedd yn rhoi gwybod iddo y byddai achos llys yn cael ei gychwyn.
Ym mis Mehefin 2025, cafodd yr achos ei gynnal yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ac er nad oedd yn bresennol, canfuwyd Mr Johnson yn euog a derbyniodd Ddirwy gwerth £440, roedd gofyn iddo hefyd dalu Costau gwerth £498 a Gordal Dioddefwr gwerth £176 - cyfanswm o £1014. Roedd rhaid iddo dalu cyn pen 28 diwrnod!
Mae'r neges yn glir – bydd carfanau gorfodi'r Cyngor yn cymryd yr HOLL gamau sydd eu hangen i sicrhau nad lle ar gyfer gadael baw cŵn, taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon na cheir wedi'u gadael mo'n Bwrdeistref Sirol. Mae trigolion Rhondda Cynon Taf yn haeddu byw mewn ardal sy'n rhydd rhag yr eitemau hyll yma sydd yn aml yn beryglus. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddarganfod yn difetha Rhondda Cynon Taf yn wynebu dirwy neu gamau cyfreithiol pan fydd angen.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Mae'r achos diweddaraf yma'n tynnu sylw at waith gwych ein carfanau gorfodi ymroddedig unwaith yn rhagor.
“Mae'r garfan yn parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn ardal lân, werdd i ni i gyd fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi. Unwaith eto, y lleiafrif sy'n difetha priffyrdd Rhondda Cynon Taf.
"Chi sy'n gyfrifol am eich cerbyd - a dydy parcio’r cerbyd a cherdded i ffwrdd ddim yn opsiwn os ydych chi eisiau cael gwared â’r cerbyd. Mae gwneud hyn yn difetha’r gymuned ac mae'n achosi rhwystr mawr ar gyfer y rheiny sy'n byw yn yr ardal.
"Bydd y garfan yn parhau â'i gwaith gwych a dylai'r achos diweddaraf yma fod yn rhwystr i'r rheiny sy'n credu na fyddan nhw'n cael eu dal - does DIM esgus dros dipio'n anghyfreithlon neu greu trafferth i'r gymuned. Byddwn ni'n gweithredu BOB TRO er mwyn dwyn y rheiny sy’n gyfrifol i gyfrif!"
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi'u gadael, tipio anghyfreithlon, baw cŵn a thaflu sbwriel yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Instagram a TikTok neu ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/glanhaustrydoedd
Wedi ei bostio ar 02/07/2025