Skip to main content

Cam olaf atgyweiriadau i wal afon Heol Blaen-y-Cwm i ddechrau'r wythnos nesaf

Blaen y cwm road wall

Bydd gwaith pwysig i atgyweirio'r rhan sy'n weddill o wal afon sydd wedi'i difrodi yn Heol Blaen-y-Cwm, yn dilyn difrod storm, yn cychwyn yr wythnos nesaf.

Fis diwethaf, rhoddodd y Cyngor y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r cynllun atgyweirio, ar ôl penodi Centregreat fel y contractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith – sy'n cynnwys gwaith rhagarweiniol y mis yma ac atgyweiriadau llawn o fis Mai, pan ddaw cyfyngiadau tymhorol o ran gweithio o fewn yr afon i ben.

Cafodd y strwythur, sy'n cynnal y briffordd yn Heol Blaen-y-Cwm, ei ddifrodi gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae un lôn wedi cael ei chau i fodurwyr i sicrhau diogelwch, gyda system goleuadau traffig ar waith. Ymgymerwyd â cham cyntaf yr atgyweiriadau o fis Medi 2020 yn llwyddiannus.

Bellach, mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd Centregreat yn ailddechrau gwaith ar y safle yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ddydd Llun, 19 Ebrill. Bydd y gwaith yn parhau trwy gydol yr haf, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod tymor hydref 2021. Bydd hyn yn golygu y bydd modd ailagor y lôn yn Heol Blaen-y-Cwm ar yr adeg honno.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd trigolion lleol a defnyddwyr y ffyrdd yn gweld gwaith yn cael ei gynnal ar safle wal afon Heol Blaen-y-Cwm o'r wythnos nesaf ymlaen. Bydd hynny'n arwain at atgyweirio'r rhan olaf o'r strwythur a gafodd ei difrodi gan y storm. Mae hwn yn parhau i fod yn gynllun o flaenoriaeth i'r Cyngor, ar ôl gwneud cymaint o gynnydd â phosibl y llynedd, cyn i'r cyfyngiadau o ran gwaith afonydd trwy gydol misoedd yr hydref a'r gaeaf ddod i rym.

“A'r cyfyngiadau hynny i’w codi cyn bo hir, hoffwn i ddiolch eto i’r gymuned leol am ei gydweithrediad – gan ein bod yn cydnabod yr aflonyddwch a ddaeth yn sgil y penderfyniad anochel i gau'r lôn yn y lleoliad yma. Penododd y Cyngor gontractwr ar gyfer y gwaith sy'n weddill y mis diwethaf gan ragweld y bydd modd i'r gwaith gychwyn ym mis Ebrill – a byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau cynnydd effeithlon dros fisoedd yr haf, fel bydd modd ailagor y lôn yn ddiogel cyn gynted â phosibl."

Wedi ei bostio ar 15/04/21