Skip to main content

Dewch i Siarad - Newid yn yr Hinsawdd RhCT

Think-Climate-Logo

Mae'r Cyngor yn lansio  sgwrs newydd a chyffrous i Drafod yr Hinsawdd - 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT' a byddem ni wrth ein boddau yn clywed eich barn am sut y mae modd i ni lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal o harddwch naturiol aruthrol. Mae nifer o barciau, parciau gwledig, ac amrywiaeth dda o fywyd gwyllt yma, gan gynnwys rhai planhigion ac anifeiliaid prin. Mae hefyd yn ardal â hanes diwydiannol cyfoethog, sy'n ei gwneud yn ardal boblogaidd i wneuthurwyr teledu a ffilm, sydd wrth eu boddau yn manteisio i'r eithaf ar ddefnyddio ein hamgylchedd rhyfeddol.

Ond mae'r byd i gyd yn siarad am Newid yn yr Hinsawdd a'i effeithiau syfrdanol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed eich barn chi ar sut y gallwn ni helpu i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd trwy weithio gyda’n gilydd yn Rhondda Cynon Taf, gan hefyd glywed eich barn chi ar y cynlluniau sydd yn Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ddrafft y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rydyn ni'n wynebu amseroedd heriol. Mae'r tymheredd yn codi ledled y byd ac fel rydyn ni yn Rhondda Cynon Taf yn ei wybod, rydyn ni'n profi tywydd eithafol trwy gydol y flwyddyn.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld y dinistr y mae glaw trwm yn ei achosi yn ein cymunedau yn ddiweddar yn dilyn Storm Ciara a Storm Dennis. Cafodd nifer o gartrefi a busnesau eu difrodi gan lifogydd, a chafodd nifer o eiddo personol ac eitemau o bob math eu dinistrio.

“Rydyn ni hefyd yn gweld sgil-effeithiau cyfnodau hir, sych bob haf a’r dinistr sy'n cael ei achosi gan danau coetir, a dyna pam mae’r Cyngor unwaith eto yn cefnogi'r Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gydag Ymgyrch Dawns Glaw.

“Nawr yw’r amser i ni i gyd siarad, ac yn bwysicach fyth, nawr yw'r amser i weithredu. Os ydych chi'n poeni am Rondda Cynon Taf, rydyn ni'n eich annog chi i ymuno â ni wrth i ni 'Drafod Newid yn yr Hinsawdd RhCT' - Mae dros 240,000 o bobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf a gyda'n gilydd mae modd i ni gyd chwarae ein rhan wrth wneud gwahaniaeth yn ein byd ni.”

Ein nod yw i Gyngor Rhondda Cynon Taf fod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030 a gweld y Fwrdeistref Sirol hefyd yn dod mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny.

Pan fydd yn ddiogel i ni wneud hynny, byddwn ni'n mynd o gwmpas ein cymunedau i siarad â chi am sut y mae modd i bob un ohonom ni wneud gwahaniaeth a chyflawni ein nodau erbyn 2030.

Ond tan hynny, hoffwn i chi ein helpu ni i ddod o hyd i ragor o ffyrdd a ffyrdd gwell o chwarae ein rhan, yn ogystal â dweud wrth bawb am y pethau gwych y mae pobl a chymunedau eisoes yn eu gwneud yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a gwneud hyn. Dewch i Siarad RhCT

Mae modd i chi gynnig adborth ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ein harolwg a rhannu eich syniadau ynglŷn â sut y mae modd i ni wneud mwy fel Cyngor i helpu i ddiogelu'r blaned.

Rhannwch eich straeon am wneud eich rhan gyda ni. Atebwch ein harolygon cyflym a hawdd am Newid yn yr Hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf a helpwch ni i ddod i wybod rhagor am yr hyn sydd eisoes yn digwydd trwy blotio unrhyw brosiectau Newid yn yr Hinsawdd yn eich ardal ar ein map.

Ymunwch â ni i Drafod Hinsawdd

Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT

Wedi ei bostio ar 22/04/21