Mae Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion hynod boblogaidd Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach ar agor.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon, ac ym mis Tachwedd 2018 enillodd wobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru ar gyfer y rhaglen Brentisiaeth ragorol. Mae’r Cyngor hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Mae gan y Cyngor 24 o brentisiaethau a 14 o swyddi i raddedigion ar gael yn 2021. Mae'r meysydd yn amrywio o beirianneg sifil i faterion cam-drin domestig, a rheoli prosiectau i seiberddiogelwch.
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf hanes cryf o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth trwy ystod o gynlluniau cyflogaeth. Mae 121 o brentisiaid a 66 o raddedigion wedi cael eu cyflogi ers 2017.
Mae'r ystod enfawr o gyfleoedd sydd ar gael bob blwyddyn bob amser yn arwain at nifer fawr o geisiadau, ac mae poblogrwydd y cynlluniau'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau wedi bod yn cael ei gynnal ers mis Medi 2012, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae dros 300 o brentisiaid wedi'u cyflogi ar draws y Cyngor.
Mae'r prentisiaethau cyfnod penodol (2 flynedd) â thâl yn rhoi cyfle i sicrhau cymwysterau cydnabyddedig ym myd diwydiant, yn ogystal â phrofiad galwedigaethol hanfodol mewn maes penodol.
Dyma'r prentisiaethau sydd ar gael ar gyfer 2021:
- Cynorthwy-ydd Gweinyddu Busnes – Blynyddoedd Cynnar
- Cynorthwy-ydd Gweinyddu Busnes – Adfywio
- Cynorthwy-ydd Gweinyddu Busnes – Cynllunio
- Cynorthwy-ydd Peirianneg Sifil
- Cynorthwy-ydd y Gyflogres a Thaliadau
- Cynorthwy-ydd Ynni a Lleihau Carbon
- Syrfëwr Ystadau
- Mecanig
- Syrfëwr Adeiladau Cynorthwyol
- Gweithiwr Ymyrraeth – Meisgyn
- Cynorthwy-ydd Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad
- Cynorthwy-ydd Data a Systemau
- Gweithiwr Priffyrdd
- Cynorthwy-ydd Gweddarlledu
- Cynorthwy-ydd – Materion Cam-drin Domestig
- Cynorthwy-ydd Pensiynau
Mae'r swyddi i raddedigion yn lleoliadau gwaith cyfnod penodol (2 flynedd) lle cewch gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rheoli mewn sefydliad dynamig ac amrywiol, yn ogystal â chyflawni cymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4.
Mae llawer o raddedigion o'r blynyddoedd blaenorol wedi llwyddo i gael swyddi rheoli ar ôl cwblhau'r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys dau o raddedigion sydd, ar hyn o bryd, yn Benaethiaid Gwasanaethau yn y Cyngor.
Dyma'r swyddi sydd ar gael i raddedigion ar gyfer 2021:
- Rheoli Prosiectau
- Materion y Gyfraith
- Seilwaith TGCh
- Seiberddiogelwch
- Gwarchod natur
- Gwasanaethau i Blant
- Cyfrifeg
- Strategaeth Tai a Buddsoddi
- Strategaeth Tai – Digartrefedd
- Adfywio
- Peiriannydd Sifil
- Peiriannydd Draenio
- Pensiynau
- Ymgysylltu â'r Gymuned
Mae trefniadau ar waith i gynnal y cyfweliadau a'r asesiadau angenrheidiol yn y modd mwyaf diogel posibl sy'n cadw at yr holl ganllawiau a gofynion perthnasol o ran iechyd cyhoeddus.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i'n falch iawn o allu cyhoeddi bod modd i bobl gyflwyno ceisiadau ar gyfer Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT 2021.
“Mae Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion y Cyngor wedi bod yn hynod lwyddiannus bob blwyddyn. Hyd yn oed gyda'r amserlen recriwtio ddiwygiedig y llynedd, bu cynnydd o ran eu poblogrwydd.
“Yn 2017, fe wnaethon ni ymrwymiad i ddarparu o leiaf 150 o brentisiaethau a swyddi i raddedigion drwy'r ddau gynllun yn ystod tymor y Cyngor yma. Y llynedd, fe ragoron ni ar yr ymrwymiad hwnnw, bron i ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl, gan wneud addewid pellach y bydden ni'n parhau i ddarparu rhagor fyth o gyfleoedd eleni.
“A ninnau'n un o gyflogwyr mwyaf yr ardal leol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd creu swyddi o safon sy'n talu'n dda, ynghyd â chyfleoedd dysgu, i'n trigolion lleol – ac mae hynny'n bwysicach nag erioed erbyn hyn.
“Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau, ac mae ein cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion yn adlewyrchu hyn gan gynnig swyddi mewn meysydd sy'n amrywio o'r amgylchedd, mecaneg, cyfrifeg a digidol.
“Ers 2017, mae 121 o brentisiaid wedi manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy'n rhan annatod o'r cynllun, ac mae cylch 2018 o brentisiaid a graddedigion bellach yn cyrraedd diwedd eu cynlluniau ac yn edrych ymlaen at ddechrau eu gyrfaoedd llwyddiannus.
“Rydyn ni'n falch o nodi bod 100% o Brentisiaid a Graddedigion y Cyngor wedi cyflawni eu fframwaith cymhwyster llawn rhwng 2012 a 2018, gyda 92% yn sicrhau cyflogaeth ar ôl i'w cynllun ddod i ben. Aeth mwy na 80% o'r rhain ymlaen i sicrhau swydd gyda'r Cyngor, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i gyflawni dysgu pellach.
“Mae ein rhaglen i raddedigion yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddatblygu'n rheolwyr y dyfodol, wrth gyflawni cymwysterau cydnabyddedig ym myd diwydiant. Ers 2017, mae'r Cyngor wedi cyflogi 66 o raddedigion trwy'r Rhaglen i Raddedigion, ac maen nhw i gyd yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol at y Cyngor ac yn dod â syniadau newydd a ffyrdd arloesol o feddwl gyda nhw.
“Mae creu swyddi i raddedigion a phrentisiaethau hefyd yn mynd law yn llaw â'r cynlluniau gwaith rydyn ni'n eu cynnig i unigolion sy'n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys eu paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith trwy gynllun GofaliWaith a chynnig lleoliadau gwaith dwy flynedd â thâl a chatalog helaeth o brofiad gwaith i helpu pobl ifainc i ddod o hyd i swyddi llawn amser trwy gynllun “Camu i'r Cyfeiriad Cywir”.
“Mae'r pandemig wedi dangos bod staff y Cyngor yn cyflawni gwaith hanfodol er mwyn diogelu'n cymunedau a chynnal gwasanaethau hollbwysig ar gyfer ein trigolion. Rydw i'n gobeithio y bydd gwaith hanfodol ein staff yn ysbrydoli pobl i ystyried dod i weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.”
Mae'r broses cyflwyno cais bellach ar agor ar gyfer y Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion. Y dyddiad cau yw 28 Mai (Gwiriwch ddyddiadau'r swyddi unigol, mae'r rhain yn amrywio). Os ydych chi eisiau cael gwybod rhagor am y cynlluniau, y swyddi sydd ar gael, a sut i wneud cais, ewch i:
Cynllun Prentisiaethau: www.rctcbc.gov.uk/prentisiaethau
Rhaglen i Raddedigion: www.rctcbc.gov.uk/rhagleniraddedigion
Wedi ei bostio ar 19/04/21