Skip to main content

Erlyniad llwyddiannus yn y llys am drosedd tipio anghyfreithlon yng Nghwm Rhondda

Court case image 1

Mae dyn o ardal Cwm Rhondda wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £724 am ddwy drosedd wahanol o fethu â sicrhau bod ei wastraff yn cael ei waredu'n gywir – yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan y Cyngor.

Daeth Cyngor Rhondda Cynon Taf â'r achos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful Ddydd Iau, 25 Mawrth, ar gyfer dau ddigwyddiad gwahanol lle'r oedd gwastraff wedi'i adael yn anghyfreithlon yng Nghwm Clydach a Threorci. Cafodd y rhain eu darganfod gan swyddogion gorfodi'r Cyngor yn Ebrill 2019 a Thachwedd 2019.

Roedd y digwyddiad cyntaf yn ymwneud â gwastraff a gafodd ei ddarganfod ar 10 Ebrill 2019, yn Stryd Howard, Cwm Clydach. Cafodd y gwastraff ei adael ar yr arglawdd ar hyd y ffordd fynediad i faes parcio'r llyn uchaf. Roedd y gwastraff yn cynnwys dau fag du, bag gwyn, teledu sgrin fflat a seinyddion hi-fi. Wrth i'r swyddogion gorfodi archwilio'r gwastraff, canfuwyd hefyd ei fod yn cynnwys tystiolaeth yn ymwneud â'r diffynnydd.

Roedd yr ail ddigwyddiad yn ymwneud â gwastraff a gafodd ei ddarganfod ar 7 Tachwedd 2019, ar hen safle Canolfan Ailgylchu Treorci, oddi ar Ffordd y Fynwent yn Nhreorci. Roedd y gwastraff yn cynnwys llawer iawn o fagiau a oedd wedi'u gwagio ac yn cynnwys sbwriel cartref, a chanfu swyddogion eto ei fod yn cynnwys tystiolaeth a oedd yn ymwneud â'r diffynnydd.

Cafodd y diffynnydd ei wahodd gan swyddogion i ddod i ddau gyfweliad ar wahân mewn perthynas â'r digwyddiadau, o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Methodd â mynychu'r naill gyfweliad na'r llall, felly cychwynnodd y Cyngor achos llys.

Yn y llys ddydd Iau (25 Mawrth 2021), dywedodd y diffynnydd ei fod wedi talu i gwmni rheoli gwastraff gael gwared ar y gwastraff, ac na fyddai wedi defnyddio ei wasanaethau pe bai’n gwybod y byddai'r gwastraff yn cael ei adael yn anghyfreithlon. Derbyniodd nad oedd wedi gwirio i sicrhau y byddai ei wastraff yn cael ei waredu'n gyfrifol, a phlediodd yn euog i Fethu â Rheoli Gwastraff am bob trosedd.

Pwysleisiodd yr Ynad mai cyfrifoldeb unigolyn yw sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. Cafodd y preswylydd ddirwy o £120 am bob trosedd, a gorchymyn i dalu costau o £450 a gordal i ddioddefwyr o £34.

Meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae hwn yn ganlyniad cadarnhaol iawn i’r Cyngor, sy’n ailadrodd bod troseddau tipio anghyfreithlon yn annerbyniol ac na fyddwn yn oedi cyn mynd ar drywydd digwyddiadau fel y rhain. Digwyddodd yr achos oherwydd gwaith ein swyddogion gorfodi pwrpasol, sy'n cynnal patrolau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac sy'n ymchwilio i achosion lle mae gwastraff wedi'i adael yn anghyfreithlon mewn cymunedau.

“Yn yr achos yma, talodd y diffynnydd gwmni rheoli gwastraff i gael gwared ar ei wastraff ond wnaeth e ddim gwirio bod hyn yn cael ei wneud yn gywir, a'i gyfrifoldeb ef oedd hyn. Gwnaeth yr Ynad bwynt pwysig i'r diffynnydd ddydd Iau – pe bai pob un ohonon ni'n mynd ati i adael ein gwastraff lle'r ydyn ni'n byw, byddai'r amgylchedd o'n cwmpas yn mynd yn wael. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i edrych ar ôl ein hardal leol, er budd pawb.

“Ffactor pwysig arall yw cost ymchwiliadau fel y rhain, gan gynnwys amser ein swyddogion – amser a allai fod wedi cael ei dreulio’n well yn rhywle arall pe na bai unrhyw drosedd wedi digwydd yn y lle cyntaf. Rhaid i'r diffynnydd nawr dalu £450 o gostau yn rhan o'r cyfanswm o £724 y gorchmynnodd y barnwr iddo ei dalu.”

Wedi ei bostio ar 01/04/2021