Skip to main content

Sioe Deithiol 'Beth sy'n Bwysig i Fi Nawr' 2021 gydag elusen Pobl yn Gyntaf

Anmated campervan on road with flowers

Stacey Harding Illustration

Bydd Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn cynnal cyfres o weithdai hwyliog i gwrdd â phobl ag anableddau dysgu i ddeall yn well y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd hyn yn cynnwys cynnal dau achlysur wyneb yn wyneb yn Aberdâr ac Ystrad yr wythnos nesaf.

Bydd yr elusen yn cwrdd â phobl leol yn rhan o Sioe Deithiol 'Beth sy'n Bwysig i Fi Nawr' 2021, gan roi'r cyfle i bobl ag anableddau dysgu rannu eu barn trwy gymryd rhan mewn tri gweithdy cyffrous.

Cliciwch yma i weld fersiwn Hawdd ei Ddarllen sy'n esbonio'r broses

Bydd y gweithdy cyntaf yn defnyddio lluniau i ddarganfod beth sy'n bwysig i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned, tra bydd yr ail weithdy yn defnyddio ffilm i ddal y pethau da a'r pethau nad ydyn nhw cystal sydd wedi digwydd iddyn nhw yn ystod y pandemig.  Bydd y trydydd gweithdy yn gwrando ar farn cyfranogwyr ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn ystod y dydd yn eu cymuned.

Mae Sioe Deithiol Pobl yn Gyntaf yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yn ystod y bythefnos nesaf, gyda dau achlysur wyneb yn wyneb ac un cyfarfod ar-lein:

  • Dydd Llun, 16 Awst - cae criced Canolfan Chwaraeon Ystrad (dwy sesiwn - cewch chi ddewis mynd i'r sesiwn gyntaf rhwng 10.30 a 12pm neu'r ail sesiwn rhwng 1pm a 2.30pm).
  • Dydd Mawrth, 17 Awst - Canolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr (dwy sesiwn - cewch chi ddewis mynd i'r sesiwn gyntaf rhwng 10.30 a 12pm neu'r ail sesiwn rhwng 1pm a 2.30pm).
  • Dydd Gwener, 20 Awst - Achlysur ar-lein dros Zoom (rhwng 11am a 12.30pm).

Bydd y Sioe Deithiol yn gyfle i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd a chynhalwyr ac aelodau staff a phartneriaid i rannu barn am y Cynnig Oriau Dydd cyfredol i bobl ag anableddau dysgu. Trefnwyd achlysuron eisoes gan y Cyngor ac elusen Pobl yn Gyntaf yn ystod y pandemig.

Ym mis Gorffennaf 2021, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor ymgymryd â gwaith ymgysylltu ehangach dros y misoedd nesaf, er mwyn datblygu strategaeth newydd ar gyfer cyfleoedd oriau dydd. Cytunodd yr aelodau i'r Cyngor barhau â'i ymdrech i ymgysylltu â phobl leol er mwyn llywio opsiynau clir ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl yn y gymuned ac yn diwallu eu hanghenion yn well.

Yn rhan o'r ymdrech yma, bydd y Cyngor yn lansio ei wefan ymgyrchu 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I / My Day My Way' ddechrau Medi 2021, yn dilyn ymgyrch 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I' Pobl yn Gyntaf. Mae hyn yn rhan o'r fenter Dewch i Siarad ehangach, er mwyn i bobl allu dysgu rhagor a rhannu'u syniadau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Oedolion: “Mae'r Sioe Deithiol sydd ar ddod gan elusen Pobl yn Gyntaf yn ffordd wych i ni ddeall ymhellach farn ac anghenion pobl ag anabledd dysgu mewn perthynas â'r ddarpariaeth Gwasanaeth Oriau Dydd cyfredol a'r cyfleoedd y maen nhw'n eu mwynhau ynghyd â'r hyn maen nhw o'r farn eu bod yn colli allan arno yn eu cymuned.

“Bydd yr achlysuron yn Aberdâr ac Ystrad yn ffordd hwyliog o wneud hyn, gan ymgysylltu gyda gweithgareddau grŵp a defnyddio gwahanol ffurfiau fel lluniau a ffilmiau. Mae'n wych bod yr achlysuron yma yn gallu cael eu cynnal yn ein cymunedau gyda chyfyngiadau Covid wedi llacio, ac mae achlysur ar-lein hefyd yn cael ei gynnal i'r rhai sy'n methu dod i achlysur wyneb yn wyneb, neu sy'n teimlo'n hapusach yn cymryd rhan dros y we.

“Y Sioe Deithiol yw’r achlysur diweddaraf mewn cyfres o achlysuron lleol gan y Cyngor ac elusen Pobl yn Gyntaf sy’n gobeithio dysgu o brofiadau pobl o’r pandemig a deall sut yr hoffen nhw weld ein gwasanaethau oriau dydd yn datblygu yn y dyfodol. Hyd yn hyn, maen nhw wedi tynnu sylw at ba mor werthfawr yw ein gwasanaethau, ond maen nhw hefyd wedi nodi bod angen rhoi mwy o bwyslais ar gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ystyrlon yn y gymuned i hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

“Byddwn felly yn annog pobl i gymryd rhan yn y Sioe Deithiol sydd ar ddod i ychwanegu lleisiau pellach i'r sgwrs yma ac, yn rhan o'r ymdrech yma, i gadw llygad allan am wefan ymgyrch 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I' y Cyngor a fydd yn lansio ddechrau mis Medi. Y bwriad yw creu adnodd ar-lein ar gyfer trafod y pwnc a gweithredu'n ofod i bobl ddweud eu dweud."

I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Deithiol 'Beth sy'n Bwysig i Fi Nawr' 2021, neu i ofyn cwestiwn am yr achlysuron, e-bostiwch Dawn Price o elusen Pobl yn Gyntaf Cwm Taf: email-dawn@rctpeoplefirst.org.uk.

Wedi ei bostio ar 11/08/2021