Skip to main content

Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ar draws RhCT

A-Levels

Mae disgyblion Rhondda Cynon Taf wedi derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chanlyniadau cymhwyster galwedigaethol lefel 3 heddiw. Mae'n bwysig llongyfarch pob un disgybl heddiw ar eu hymdrechion a'u cyflawniadau academaidd, ac am y cydnerthedd y maent wedi'i ddangos trwy gydol y pandemig. Dylai ein hysgolion hefyd deimlo'n hynod falch o gyflawniadau eu disgyblion.

Mae'r garfan sy'n derbyn eu canlyniadau eleni wedi wynebu heriau nas profwyd o'r blaen oherwydd y pandemig, a gwnaeth yr aflonyddwch parhaus o ran dysgu ac addysgu  ysgogi newidiadau o bwys i'r rheoliadau a gymeradwywyd ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch ar gyfer 2021.

Ysgolion sydd wedi pennu'r graddau y mae'r disgyblion yn eu derbyn eleni ac mae hyn wedi dibynnu ar farn broffesiynol a diwydrwydd ein hathrawon.

Mae arweinwyr a staff ein hysgolion wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod disgyblion yn derbyn canlyniadau sy'n adlewyrchu eu gallu, ac a fydd yn eu galluogi i barhau â'r camau nesaf yn eu bywyd - boed hynny'n addysg uwch, y byd gwaith, prentisiaethau neu hyfforddiant.

Fydd dim adrodd ynglŷn â data cyflawniad eleni oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio mesur cyflawniad Cyfnod Allweddol 4 a'r chweched dosbarth.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ym mis Mehefin 2021 'ni fydd data dyfarniadau cymwysterau yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortiwm rhanbarthol'. Fodd bynnag, bydd ysgolion a'r awdurdod lleol yn parhau i wneud defnydd effeithiol o ddata i helpu ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol i wella'n effeithiol ac yn barhaus;

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Bu'n flwyddyn anodd iawn eleni i'r holl ddisgyblion ledled y Fwrdeistref Sirol, a hoffwn ganu clodydd disgyblion a'r staff addysgu am eu gwaith caled a'u gwytnwch.

“Mae heddiw yn ddiwrnod i ddathlu’u holl waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad a hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion sydd wedi derbyn eu graddau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol.

“Cafodd y graddau eu pennu gan athrawon gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth o asesiadau, gan ddibynu ar farn ddibynadwy athrawon proffesiynol sydd wedi cyflawni gwaith rhagorol yn ystod y pandemig.

“Mae derbyn y canlyniadau yma heddiw yn cynnig cyfle i ddathlu a myfyrio ar y 12–15 mis diwethaf. Mae hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at y dyfodol gyda balchder mawr wrth i'r disgyblion symud ymlaen at y cam nesaf.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff addysgu, cyrff llywodraethu, staff cymorth, rhieni a chynhalwyr rhyfeddol, sydd wedi cefnogi ein disgyblion bob cam o’r ffordd - mae hwn yn ddiwrnod i chi i gyd ddathlu eu llwyddiant.

“Rwy’n parhau i fod yn falch o waith yr ysgolion yn eu cymunedau drwy gydol y pandemig. Maent wedi cynnal cysondeb o ran dysgu, cynnig gofal a chymorth i'r rheiny sydd eu hangen, ynghyd â bod yn rhan annatod o fywyd y gymuned."

Mae'r canlyniadau wedi'u rhannu'n electronig ac yn bersonol heddiw, ac mae cymorth ar gael i ddysgwyr sydd angen cyngor ac arweiniad pellach.

Er gwaethaf yr holl darfu eleni, mae hwn yn ddiwrnod pwysig i ddisgyblion blwyddyn 13, gan ei fod yn ddechrau pennod newydd gyffrous yn eu bywydau.

Mae'r Cyngor yn cydnabod holl gyrraeddiadau cadarnhaol ysgolion Rhondda Cynon Taf a'u disgyblion, gyda llawer yn cael eu derbyn heddiw i'r brifysgol, i golegau addysg bellach ac i swyddi.

Wedi ei bostio ar 10/08/21