Skip to main content

Rasys Ffordd Parc Aberdâr

race1

Photo credit: Paul Jenkins

Bydd Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn dychwelyd y penwythnos yma, gan ddenu'r beicwyr modur gorau o bob cwr o'r wlad unwaith eto, ac uchafswm o 4,000 o wylwyr fesul diwrnod.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul 7-8 Awst. Er mwyn cynnal yr achlysur, bydd Parc Aberdâr ar gau i'r cyhoedd rhwng 6.30pm ddydd Gwener 6 Awst a 6pm ddydd Sul 8 Awst.

Mae Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf ar gyfer y rhai sy'n dilyn rasio beiciau modur ac maen nhw'n heidio i Rondda Cynon Taf am benwythnos o gyflymder a chyffro mewn amgylchedd prydferth.

Cafodd yr achlysur ei ohirio y llynedd o ganlyniad i'r pandemig byd-eang ond, unwaith eto yn 2021, mae rhai o feicwyr modur gorau'r DU yn dod i'r Fwrdeistref Sirol i gystadlu ar y trac unigryw o gwmpas Parc Aberdâr.

Dechreuodd yr achlysur, sy'n cael ei drefnu gan Glwb Beiciau Modur Aberaman a'i gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ym 1950.

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth: “Rydw i wrth fy modd bod modd i ni groesawu Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn ôl i'n parc hardd.

“Mae'r trefnwyr wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor er mwyn sicrhau bod yr achlysur yma mor ddiogel â phosibl, ac rydw i'n annog pawb sy'n mynd i'r achlysur i ddilyn yr holl ganllawiau sydd ar waith.

“Bob blwyddyn mae Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn cynnig gŵyl wych o rasio beiciau modur, ac yn hwb ardderchog i fusnesau a masnachwyr lleol.”

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r ardal chwarae i blant wedi cael ei hadnewyddu ac mae'r cychod pedalau poblogaidd wedi dychwelyd i'r llyn cychod. Mae ffynnon o arddull Fictoraidd, sy'n coffáu Coroni Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary, hefyd wedi cael ei hadfer yn hardd i'w hen ogoniant.

Parc Aberdâr

Bydd Rasys Ffordd Parc Aberdâr yn cael eu cynnal ym Mharc Aberdâr, CF44 8HN, ar 7-8 Awst. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.aberdare-park-road-races.co.uk/

Wedi ei bostio ar 03/08/2021